Croeso i Arwain Dysgu Proffesiynol, adnodd ar-lein newydd – a chynyddol – i helpu arweinwyr ysgolion yng Nghymru i ymgorffori syniadau strategol newydd yn y ffordd maen nhw’n arwain dysgu proffesiynol yn eu hysgol a thu hwnt.
Rydym wedi archwilio llenyddiaeth academaidd a pholisi rhyngwladol i nodi wyth dilysnod dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol – ac mae’r adnodd yn seiliedig ar y dilysnodau hynny.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig: mae’r adnodd yn cynnwys dolenni i’r holl lenyddiaeth rydyn ni’n cyfeirio ati (mae’r rhan fwyaf ar gael i’w darllen am ddim ar-lein) felly, os ydych chi eisiau Golwg Fanylach a darllen yn fwy am eich maes chi, dyma’r man cychwyn perffaith i chi.
Bydd cynnwys apelgar o dan bob dilysnod: astudiaethau achos, dolenni i ddarllen pellach, ffilmiau sy’n cynnwys arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw, fideos wedi’u hanimeiddio ac, yn y dyfodol, recordiadau o sgyrsiau a digwyddiadau sy’n archwilio’r dilysnodau. Hoffem i chi Gael Eich Ysbrydoli.
Nid yw Arwain Dysgu Proffesiynol yn bodoli ar ei ben ei hun a’i nod yw ategu mentrau pwysig ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Yn yr holl dudalennau hyn, rydym yn annog arweinwyr i Wneud y Cysylltiad ag Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu, y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, y Safonau Proffesiynol ar gyfer Arweinyddiaeth ac Addysgu, y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol, dysgu proffesiynol i arweinwyr a gynigir gan y Consortia Addysg Rhanbarthol, y Daith Dysgu Proffesiynol, ac eraill. Byddwn yn parhau i nodi a gwella’r cysylltiadau hyn wrth i’r adnodd ddatblygu.
Yn olaf, hoffem i Arwain Dysgu Proffesiynol dyfu ac esblygu, gan ychwanegu rhagor o gynnwys cyfoethocach dros amser. Felly, os yw’ch ysgol yn Arwain Dysgu Proffesiynol mewn ffyrdd y byddai arweinwyr eraill yn elwa o ddysgu mwy amdanynt – cofiwch sôn wrthym. Efallai y gallai’ch ysgol ymddangos fel astudiaeth achos yn y dyfodol neu fel rhan o’n ffilm neu ddigwyddiad nesaf. Dyma’ch cyfle i Ymuno.
Yn y rhifyn diweddaraf o’n Cyfres Mewnwelediad, mae’r Athro Ken Jones yn archwilio’r llenyddiaeth academaidd a pholisi rhyngwladol ar Arwain Dysgu Proffesiynol. Mae’r papur yn gydymaith i adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a bydd yn ffordd ddefnyddiol i arweinwyr feithrin dealltwriaeth ddyfnach o ddysgu proffesiynol a sut mae’n rhyngweithio ag arweinyddiaeth ysgolion.
Astudiaeth Achos ar Bresenoldeb Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe, Castell Nedd Port Talbot Cefndir: …
Astudiaeth Achos Presenoldeb Nid yw presenoldeb ysgol isel yn broblem newydd, ond erbyn hyn, ar ôl …
Astudiaeth Achos Arferion Effeithiol Ysgol Uwchradd Y Rhyl Yn Ysgol Uwchradd y Rhyl rydym yn ei ysty…