Skip to main content
English | Cymraeg

Astudiaeth Achos Presenoldeb

Nid yw presenoldeb ysgol isel yn broblem newydd, ond erbyn hyn, ar ôl Covid, mae yna ddylanwadau a phwysau newydd arno. Mae’n gymhleth, yn amrywio o broblemau cymdeithasol dwfn a difrifol, gorbryder gwirioneddol, yn ogystal â bod rhai teuluoedd – waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol – yn edrych ar bwysigrwydd presenoldeb mewn ffordd wahanol i’r gorffennol. Mae mwy o ddifaterwch, mae agweddau rhieni a’u bywydau gwaith yn newid ynghyd â lefelau uwch o herio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a ddangosir yn y nifer cynyddol o waharddiadau.

Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn

Eleni, gwelwyd bod Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn yn astudiaeth achos gadarnhaol yn ei chyd-destun uwchradd lleol. Mae’r presenoldeb wedi gwastatáu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan aros 3-4 y cant yn is na’r lefelau cyn Covid. Fodd bynnag, ystyriwyd ei bod yn gwneud cynnydd ym Mro Morgannwg ac yn ddiweddar rhoddodd gyflwyniad i Ysgolion Uwchradd lleol ar strategaethau i wella presenoldeb.

Ffigurau presenoldeb

Ysgol gyfan – 90.1%

Blwyddyn 7 – 91.8%

Blwyddyn 8 – 90.9%

Blwyddyn 10 – 89.7%

Blwyddyn 11 – 88.0%

Mae’r canlynol yn amlinellu rhai o’r strategaethau a ddefnyddir yn yr ysgol.

Strategaeth Effaith
Penodi Cydymaith i’r Tîm Arweinyddiaeth i gefnogi codi presenoldeb. Mae’r Cydymaith wedi gweithredu systemau yn seiliedig ar y Polisi Presenoldeb a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023.
Cyfarfodydd presenoldeb yn cael eu cynnal bob pythefnos rhwng yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth gydag Arweinydd Presenoldeb yr ysgol – defnyddir system olrhain i drafod anghenion a chynnydd myfyrwyr unigol. Gosodir targedau, hysbysir aelodau allweddol o’r staff er mwyn cymryd camau gweithredu a benderfynwyd gan yr Arweinydd Presenoldeb a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.
Gweithio gyda’r tîm cynhwysiant yn yr awdurdod lleol bob hanner tymor. Defnyddio cyngor gan yr arbenigwr allanol i godi cyrhaeddiad a phresenoldeb.
Neilltuo awr ychwanegol i Arweinwyr Cynnydd / Penaethiaid Blwyddyn i gefnogi Olrhain ac Ymyriadau Presenoldeb. Cynhelir Cyfarfodydd Pryder Cychwynnol gyda theuluoedd/myfyrwyr er mwyn cynnal cyfathrebu rhwng yr ysgol a’u teuluoedd.
Rhoi data presenoldeb bob pythefnos i diwtoriaid dosbarth i’w drafod â myfyrwyr. Hysbysir myfyrwyr am eu presenoldeb diweddaraf. Mae tiwtoriaid dosbarth yn trafod presenoldeb disgyblion i godi cyrhaeddiad.
Mae’r Arweinydd Presenoldeb yn cynnal ‘Ymweliadau Cartref’ wythnosol i weld y rhai sy’n absennol yn barhaus a’u hannog i ddod i’r ysgol. Meithrin perthnasoedd cadarnhaol, rhoi cymorth yn ei le a chael gwared ar ffiniau i beidio â mynychu.
Dathliadau presenoldeb tymhorol a llythyrau cadarnhaol. Cynhelir gwasanaethau bob hanner tymor i ddathlu myfyrwyr sydd â phresenoldeb o 100% neu 97%. Defnyddir y llythyrau i ddweud wrth rieni/gwarcheidwaid bod ymdrechion eu plentyn wedi cael eu cydnabod.
Cyfarfod Gweithredu Presenoldeb

Cynhelir y cyfarfod hwn gyda’r Arweinydd Presenoldeb yn bresennol os na fu gwelliant ym mhresenoldeb y myfyriwr ar ôl 4 wythnos. Gall yr Arweinydd Presenoldeb alw ar wasanaethau cynhwysiant ar ôl y cyfarfod hwn. Mae hyn yn cynorthwyo’r broses pe bai angen cynnal cyfarfod uwchgyfeirio.

Cyfarfod Uwchgyfeirio

Caiff hwn ei gydlynu os na fu unrhyw welliant yn y presenoldeb ar ôl un hanner tymor. Ar y pwynt hwn, mae Pennaeth y Cyfnod Allweddol a’r Pennaeth Cynorthwyol yn ymwybodol o’r myfyriwr hwn a bydd ‘Atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Cynhwysiant’ yn cael ei wneud.

Camau a chymorth pellach

Wrth symud ymlaen gyda chodi presenoldeb mae’r ysgol dal i fod angen:

  • Mwy o gysondeb yn y system yn yr holl grwpiau blwyddyn.
  • Gweithio mwy gyda’r holl randdeiliaid allweddol i wella presenoldeb, ac yn arbennig, mwy o gyfranogiad gan Iechyd.
  • Ymgyrch ledled y Sir/Fro i newid meddylfryd rhieni tuag at Iechyd.
  • Defnyddio digwyddiadau pontio yn fwy i drafod pwysigrwydd presenoldeb.
Enghraifft Gadarnhaol o Fyfyriwr
  • Presenoldeb – Chwefror 2023 – 10.3%
  • Presenoldeb – Chwefror 2024 – 74.2%
  • Mae gan y myfyriwr ASD, mae’n gwrthod mynd i’r ysgol oherwydd gorbryder a ffobia o germau
Camau Gweithredu’r Ysgol
  • Amserlen lai
  • Cysylltiad rheolaidd dros y ffôn neu gyfarfodydd zoom wyneb yn wyneb
  • Atgyfeirio at CAMHS
  • Atgyfeirio at SEMHP – trefnu darpariaeth OOST
Canlyniad

Gydag ymateb graddedig mae’r myfyriwr bellach yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn ymddangos yn hapus, yn cymdeithasu gyda chyfoedion ac yn cyfrannu yn y dosbarth. Mae presenoldeb yn fater cymhleth sydd angen tîm i’w gefnogi. Derbyniodd y myfyriwr hwn gymorth ADY, cynhwysiant, Iechyd ac arweinydd presenoldeb yr ysgol ar hyd y daith hon.

Matthew Dunn, Dirprwy Bennaeth, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn
Pob Astudiaethau Achos