Skip to main content
English | Cymraeg
Team meeting

Cymeradwyaeth

Diben cymeradwyo yw sicrhau y gellir cydnabod y ddarpariaeth datblygu arweinyddiaeth fwyaf effeithiol a gynigir ar hyn o bryd. Nod cymeradwyaeth yw sicrhau mynediad cyfartal i ddarpariaeth datblygu arweinyddiaeth o ansawdd uchel ledled Cymru.

Rydym yn annog pob darparwr sy’n datblygu ac yn cyflwyno cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth i ddod â’u darpariaeth ymlaen i’w chymeradwyo.

Mae’r broses gymeradwyo yn sicrhau bod darpariaeth arweinyddiaeth yn cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, yn bodloni uchelgais ein diwygiadau addysgol Cenedlaethol ac yn cefnogi’r blaenoriaethau polisi strategol ar gyfer pob lleoliad addysgol gan gynnwys:

  • Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion
  • Gwaith Ieuenctid (Statudol a Gwirfoddol)
  • Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu Oedolion yn y Gymuned)

Monitro

Mae’r broses fonitro yn sicrhau bod darparwyr yn parhau i ddarparu darpariaeth o ansawdd uchel, sy’n parhau i fod yn addas i’r diben ac yn parhau i ddiwallu anghenion a disgwyliadau datblygu arweinyddiaeth yn unol â pholisi cenedlaethol.

Mae’n dangos bod y ddarpariaeth o safon uchel ac yn canolbwyntio ar y dyfodol wrth gryfhau’r berthynas rhwng yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a’r darparwyr eu hunain ar yr un pryd. Mae’r broses fonitro yn dechrau gyda hunanwerthuso’r darparwr ei hun ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi darparwyr wrth adolygu, addasu a gwella eu darpariaeth.

Mae’r gweithgaredd monitro yn broses barhaus ac yn digwydd drwy gydol y flwyddyn.

Mae ein galwad am gymeradwyaeth ar agor.

Yn yr alwad hon mae gennym ddiddordeb arbennig mewn darpariaeth arweinyddiaeth ar gyfer y canlynol:

  • Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Cwricwlwm i Gymru
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Gwrth-hiliaeth
  • Cymraeg mewn Addysg
  • Arweinyddiaeth Dosturiol
  • Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol
  • Llywodraethwyr
  • Ysgolion Cymunedol

Gall darpariaeth sydd wedi’i hachredu gan sefydliad arall, Corff Dyfarnu neu Sefydliad Addysg Uwch neu sydd â darpariaeth eisoes wedi’i chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol fod yn gymwys ar gyfer proses gymeradwyo symlach.

Dylid cyflwyno ceisiadau neu ddatganiadau o ddiddordeb i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol drwy post@agaa.cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni.

Lawrlwythiadau:

CANLLAW CYMERADWYO    Ffurflen Cais Cymeradwyo Proses Fonitro

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Pryd a sut mae gwneud cais?

Mae ein galwad gyfredol am gymeradwyaeth bellach ar agor ar gyfer cyflwyniadau darpariaeth datblygu arweinyddiaeth ar gyfer pob sector addysg ac ar unrhyw adeg gyrfa. Mae canllawiau ymgeisio ar gyfer darparwyr a’r ffurflen gais ar gael i’w lawrlwytho uchod ac maent yn cynnwys manylion llawn am sut i wneud cais.

Gyda phwy ddylwn i gysylltu os oes gennyf gwestiynau am y broses ymgeisio?

Mae cefnogaeth ar gael trwy gysylltu â’r Academi Arweinyddiaeth trwy e-bost post@agaa.cymru.

Beth yw'r broses ar gyfer ceisiadau?

Mae dau gam i’w cymeradwyo – cyflwyno ffurflen gais i’w hadolygu gan banel cam 1, a fydd, os yw’n llwyddiannus, yn arwain at wahoddiad i gyflwyno i banel cam 2. Darperir manylion llawn bob cam yn y llyfryn canllaw.

Pwy sy'n ffurfio'r panel?

Mae paneli cymeradwyo yn cynnwys o leiaf dri aelod o Staff, Gymdeithion a Rhanddeiliaid yr Academi Arweinyddiaeth.

A oes ffi am gymeradwyo?

Ni fydd unrhyw dâl i ddarparwyr ar gyfer gweinyddu cymeradwyo, ond bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn adolygu hyn ac yn cadw’r hawl i godi tâl gweinyddol bach ar sefydliadau nad ydynt yn y sector cyhoeddus nac yn elusennol.

Pa mor hir mae'r cymeradwyaeth yn para?

Bydd cymeradwyaeth yn para am 5 mlynedd a bydd angen ei adnewyddu ar ôl hynny. Fodd bynnag, mae’r Academi Arweinyddiaeth yn cadw’r hawl i atal dros dro neu dynnu cymeradwyaeth yn ôl o ganlyniad i’r proses monitro sicrhau ansawdd.

A allaf gael fy nghymeradwyo fel darparwr?

Na, mae cymeradwyaeth ar gyfer rhaglenni / darpariaeth yn unig.

Sut mae'r ddarpariaeth a gymeradwywyd yn cael ei monitro?

Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn monitro sicrwydd ansawdd ar yr holl ddarpariaethau a gymeradwywyd er mwyn sicrhau cysondeb safonau o fewn y broses. Gall darparwyr ddisgwyl i’r ddarpariaeth a gymeradwywyd fod yn sicrhau ansawdd yn rheolaidd yn dilyn cylch cyflwyno wedi’i gwblhau a gofynnir iddynt lunio adroddiad ansawdd ac effaith.

Sut mae ansawdd y broses gymeradwyo yn cael ei sicrhau?

Mae’r Academi Arweinyddiaeth wedi ymrwymo i bartneriaeth gydweithredol gydag Addysg yr Alban a’r Ganolfan Arweinyddiaeth Ysgolion yn Iwerddon. Bydd hyn yn cynnwys trefniant cefnogol o adolygiad cymheiriaid cilyddol sy’n canolbwyntio ar nodi cryfderau a meysydd i’w gwella ym mhob un o’r tair gwlad.

A oes proses apelio os na ddyfernir cymeradwyo?

Na. Ni all ddarparwyr apelio yn erbyn penderfyniad y panel, ond gallant ailgyflwyno’r cais ar sail unrhyw argymhellion a wnaed. 

Astudiaethau Achos

Taith ddysgu ddiddiwedd – gobeithio!

Taith ddysgu ddiddiwedd – gobeithio! Pan ofynnwyd i mi ysgrifennu am fy nhaith arweinyddiaeth fe …

Stori Arweinyddiaeth: Russ Dwyer

Stori Arweinyddiaeth: Russ Dwyer Bu Nia Miles, Pennaeth Mewnwelediad yn yr Academi Genedlaethol ar g…

Ewch amdani a gwrandewch i gyngor eich mentoriaid

Ewch amdani a gwrandewch i gyngor eich mentoriaid Rwy’n cofio cyrraedd Ysgol y Strade, yn Llanelli…