Yn 2020, cyhoeddodd Cymdeithion o’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol adroddiad comisiwn a oedd yn archwilio’r cwestiwn:
‘Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu gweledigaeth Cymru o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus?’.
Arweiniodd y comisiwn hwn at gyfres o argymhellion i’w hystyried ar lefel genedlaethol. Un oedd sicrhau fframwaith cenedlaethol clir ar gyfer datblygiad y Gymraeg o fewn y sector addysg gan roi ystyriaeth i’r Gymraeg o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Yn dilyn hyn, sefydlwyd yr Adnodd Hunan-werthuso mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol, Estyn, Awdurdodau Lleol a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Bwriad yr adnodd yw annog penaethiaid i ystyried datblygiad y Gymraeg yn eu hysgol a mapio eu darpariaeth ar gyfer symud y Gymraeg ymlaen yn strategol ac yn ymarferol. Gellir ei ddefnyddio gan ysgolion ochr yn ochr â’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella (NR:EI). Rhennir yr adnodd yn dri maes sy’n cyd-fynd â meysydd yr adnodd cenedlaethol; arweinyddiaeth, dysgu, addysgu a chwricwlwm a lles, tegwch a chynhwysiant.
Bu saith ysgol yn rhan o dreialu’r Adnodd Hunanwerthuso hwn ac mae pob ysgol wedi dewis maes ffocws o ran y Gymraeg ac wedi mynd ati i ateb y cwestiynau fel rhan o’u proses gwella ysgol.
Rôl yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol oedd cefnogi’r penaethiaid yn y broses o ddehongli’r cwestiynau wrth gynnig cymorth ymarferol a thrafod pa adnoddau posibl allai fod o gymorth wrth dreialu’r adnodd. Rhannwyd cyfres o gwestiynau pellach sy’n gofyn i’r ysgolion peilot ystyried gwerth yr adnodd ac adnabod unrhyw gryfderau ac anfanteision.
Yn dilyn y peilot bydd pob ysgol wedi drafftio strategaeth gyda’r nod o hybu a datblygu’r Gymraeg. Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a’r ysgolion wedi cynhyrchu astudiaethau achos i rannu arfer dda ag ysgolion eraill ledled Cymru.
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd yn ysgol gynradd wedi’i lleoli ym Metws, Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru. Darperir addysg ddwyieithog i Gwm Garw a Chwm Ogwr a’r ardal gyfagos.
Pob Un Yn Cyfri, Pob Un Yn Cyflawni yw blaenoriaeth yr ysgol. Mae creu amgylchedd hapus a gofalgar lle gall pob plentyn deimlo’n ddiogel yn dra phwysig. Y nod yw darparu amgylchedd cynnes, croesawgar a hapus lle mae disgyblion yn cael eu hannog i gyflawni eu llawn botensial a datblygu i fod yn ddinasyddion cyfrifol ac yn ddysgwyr gydol oes.
Ein cyd-destun ar gyfer deall Cymreictod
Ein staff
Isod ceir crynodeb o’r sefyllfa staffio bresennol:
Ein Hardal leol
Mae’r ardal yn un ddifreintiedig ac mae 67.2% o blant yn cyrraedd yr ysgol ar y bws
Ein dosbarthiadau
Ein Dysgwyr
Mae 187 o ddysgwyr ar y gofrestr a’r amrediad oedran rhwng 3 – 11 oed. Mae gan 8% o ddysgwyr yr Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynllun Datblygu Unigol. Mae 21.8% yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim
Mae 0% o’n dysgwyr o dras ethnig gyda’r mwyafrif o dras gwyn, Prydeinig. Wrth ddechrau peilota’r Adnodd rhoddwyd ystyriaeth i ddefnydd iaith yn y cartref ble mae 1% o deuluoedd uniaith Gymraeg a 9.85% o deuluoedd gydag un rhiant yn siarad Cymraeg
Y cam cyntaf
Google Forms wedi eu haddasu a’u dosbarthu i rieni, dysgwyr a llywodraethwyr. Anfonwyd google forms allan i’r staff hefyd yn gofyn iddynt leisio barn Coch, Ambr, Gwyrdd ar gwestiynau’r Adnodd hunan werthuso.
Cam 2 – Gwerthuso Ysgol gyfan
Y cam nesaf
Datblygu ac Adnewyddu hyd yn hyn. Rhoddwyd ystyriaeth i’r 3 cham isod
Anelwn at dyfu diwylliant ac ethos a fydd yn creu cymuned ysgol hapus a chynhwysol sy’n ysbrydoli ac yn ennyn mwynhad o fewn ein dysgwyr a’u datblygu’n siaradwyr Cymraeg naturiol. Mae’r datblygiad o’r iaith Gymraeg yn rhoi ymdeimlad cryf o berthyn a chyd gefnogaeth wrth gadw ein hunaniaeth yn unigryw a chlymu ein cymuned ag undod. Hyrwyddwn awyrgylch sy’n meithrin ac yn hybu ein diwylliant a thraddodiadau Cymreig gyda balchder mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Darparwn amgylchfyd sy’n hybu parch a chydweithio ystyrlon ble gall pob dysgwr gymryd rhan mewn ystod eang o weithgreddau llythrennedd, tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth ac yn sgil pob ymdrech, profi boddhad a llwyddiant yn yr hyn a wnânt. Cynlluniwn gyfleoedd i’n dysgwyr ddangos agweddau cadarnhaol at ddysgu ieithoedd a bod yn amlieithog, gan wneud cysylltiadau rhwng ieithoedd gwahanol a pharchu eraill yn y broses. Cynigwn brofiadau a fydd yn ymateb i ofynion a newidiadau ein cymuned, a bydd hyn yn caniatáu i bawb gyrraedd eu llawn botensial ac i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog am oes.
Cymreictod, Cymuned, Cariad
Er mwyn ceisio hybu ein dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol cyflwynir y cysyniad o’r ‘Dreigiau Dirgel’ i blant Derbyn hyd at flwyddyn 6.
Dewisir unigolyn ar hap ar ddechrau’r dydd i fod yn ddraig ond does neb arall yn gwybod pwy ydynt. Gwrandawir arnynt yn ofalus yn ystod y dydd i weld os ydynt yn:
Gair gan y Pennaeth:
“Braint oedd bod yn rhan o dreialu’r Adnodd Hunan-werthuso’r Gymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd. Ffocws y prosiect oedd asesu a gwella ein harferion gan ddefnyddio’r adnodd hunan-werthuso Cymraeg, menter a oedd yn unol â blaenoriaeth ein hysgol – “Mae Pawb yn Cyfrif, Pawb yn Cyflawni,” gan bwysleisio creu amgylchedd hapus a gofalgar lle mae pob plentyn yn teimlo’n ddiogel ac yn cael ei annog i gyflawni ei lawn botensial. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gam sylweddol ymlaen yn ein taith i wella ein hamgylchedd addysgol a’n hysbryd cymunedol.
“Mae’r prosiect wedi sicrhau ein bod yn cydweithio fel tîm cydlynol i greu gweledigaeth a rennir ar gyfer ein hysgol. Mae wedi meithrin ymdeimlad o undod a chydweithio ymhlith staff, rhieni, a myfyrwyr a’r gymuned ehangach gan ganiatáu inni ymdrechu ar y cyd tuag at ein nodau cyffredin.
“Manteision y Prosiect. Roedd yr offeryn hunanwerthuso yn ein hannog i ofyn cwestiynau heriol a chymryd rhan mewn arferion myfyriol. Mae’r broses hon wedi bod yn allweddol i’n helpu i ddeall ein cryfderau a’n meysydd i’w gwella.
“Trwy gydweithio, rydym wedi dyfnhau ein dealltwriaeth o sut i ddatblygu sgiliau Cymraeg ein dysgwyr yn effeithiol. Mae’r ymdrech gytun hon o fudd i’n myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn cael addysg gyfoethog sy’n berthnasol iddynt yn ddiwylliannol.
“Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddefnyddio’r offeryn hunan-werthuso hwn i yrru ein gweledigaeth yn ei blaen. Mae wedi profi i fod yn adnodd amhrisiadwy yn ein hymdrechion i wella ac arloesi. Mae bod yn rhan o’r prosiect hwn wedi bod yn fraint, ac rydym yn gyffrous am yr effaith gadarnhaol barhaus y bydd yn ei chael ar gymuned ein hysgol.”