Teitl darpariaeth wedi’i chymeradwyo:
Rhaglen Arweinyddiaeth Uwch 6 diwrnod mewn Hyfforddi a Deallusrwydd Emosiynol
Rhaglen Hyfforddiant Weithredol Uwch 3 diwrnod
Dyddiad y ddarpariaeth wedi’i chymeradwyo: Chwefror 2019
Mae gennym ddwy raglen wedi’u cymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar hyn o bryd: y Rhaglen Hyfforddiant Weithredol Uwch 6 diwrnod a’r Rhaglen Arweinyddiaeth Uwch 3 diwrnod mewn Hyfforddi a Deallusrwydd Emosiynol. Mae uwch arweinwyr a thimau arwain ledled y de a’r canolbarth wedi elwa ar y rhaglenni hyn.
Gwnes gais am gymeradwyaeth yr Academi Arweinyddiaeth gan fod y proffesiwn addysgu’n rhan fawr o bwy ydw i, ac rwy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i’n sector yng Nghymru. Mae cael cymeradwyaeth yr Academi Arweinyddiaeth i’n rhaglenni yn gymorth mawr i sicrhau bod ein gwaith yn cyrraedd mwy o ysgolion ac arweinwyr yng Nghymru.
Clywais am y broses gan gydweithiwr sy’n gweithio yn yr awdurdod lleol a awgrymodd fy mod i’n gwneud cais. Er ein bod ni’n gwmni bach iawn, mae’r Academi Arweinyddiaeth yn credu yn ein gwaith ac wedi’n cefnogi gydol y broses gyfan. Roedd hyn yn bwysig iawn i ni ac roeddem yn teimlo ein bod ni’n cael ein gwerthfawrogi’n fawr gan y sefydliad. Roedd y broses gymeradwyo yn hawdd i wneud cais amdani, yn syml ac roedd dogfennau a gwybodaeth yr Academi Arweinyddiaeth yn fanwl a defnyddiol iawn.
Mae manteision cymeradwyaeth yn cynnwys cymorth i’n cwmni drwy hyrwyddo ar wefan yr Academi Arweinyddiaeth ac, wedi mynd trwy’r broses sicrhau ansawdd drylwyr ond teg, mae’n galluogi arweinwyr i gydnabod bod ein rhaglenni o ansawdd a safon uchel. Mae hefyd yn ein galluogi ni fel cwmni i adolygu’n prosesau a’n gweithdrefnau’n rheolaidd i fodloni’r safonau a nodwyd gan yr Academi Arweinyddiaeth.
O ganlyniad i’r gymeradwyaeth mae ysgolion nawr yn cydnabod pwy ydym ni a beth sydd gennym i’w gynnig a bydd yn cyflwyno ceisiadau pellach i’r broses gymeradwyo eleni.
‘Mae mynychu’r rhaglen 6 diwrnod wedi bod yn amhrisiadwy i fi fel arweinydd. Rwyf wedi tyfu ac ennill cymaint o wybodaeth drwy fynychu’r hyfforddiant hwn. Alla i ddim ei argymell ddigon’. – Pennaeth (Caerffili)
‘Fe wnes i fwynhau mynychu’r rhaglen hyfforddi 3 diwrnod gyda fy mhennaeth cynorthwyol yn fawr. Mae gennym eirfa gyffredin wrth gynnal cyfarfodydd yn awr ac mae gallu gweithredu’r strategaethau hyn wedi bod yn sylfaenol i’m twf fel arweinydd dros y misoedd diwethaf’. – Pennaeth (Sir Benfro)
‘Dylid darparu’r hyfforddiant hwn i bob athro sy’n symud i swydd arwain. O ddysgu am fy ngwerthoedd, sydd wedi fy ngalluogi i ddeall yr hyn sy’n fy ysgogi, i gynnal sgyrsiau heriol, mae wedi fy nhrawsnewid o ran gallu rheoli fy lefelau straen fy hun’. – Uwch arweinydd (Caerffili)
Manylion cyfredol y sefydliad: