Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru wedi bod yn falch iawn i gefnogi un o’i chymdeithion o Garfan 2, Roger Guy, ar ôl iddo ymgymryd â phrosiect sy’n canolbwyntio ar Gwricwlwm i Gymru gyda’i gyd-staff a disgyblion Ysgol Gynradd Gilwern yn Y Fenni.
Mae’r cysyniad, ‘Gilwern o Amgylch y Byd mewn Cwricwlwm Newydd’, yn golygu bod aelodau’r ysgol, yn ogystal â rhai gwesteion, yn rhedeg a beicio o gwmpas y byd yn rhithiol ac yn trochi eu hunain yn niwylliant a threftadaeth y gwahanol wledydd ar hyd y ffordd.
Byddant wedi teithio cyfanswm o 50,000 cilomedr erbyn diwedd y prosiect, tu mewn a thu hwnt i dir yr ysgol.
Mae’r prosiect heriol yn cyd-fynd â’r cwricwlwm ysgolion pwrpasol newydd a chyffrous, gyda phob grŵp blwyddyn yn astudio gwahanol agweddau wrth iddynt gyrraedd y gwahanol leoliadau. Ymhlith y pynciau yr edrychir arnynt mae celf, amaethyddiaeth, cerddoriaeth a hinsawdd.
Mae’r mis hwn yn nodi’r pwynt hanner ffordd yn nhaith yr ysgol ac yn diweddar teithiwyd 731 km pellach i sicrhau eu bod wedi cyrraedd Darwin yn Awstralia.
Ymwelodd ein Prif Weithredwr, Tegwen Ellis, â Roger a’r ysgol gyfan ddydd Gwener, 1 Gorfennaf , a dywedodd am ei phrofiad:
“Roedd yn bleser pur ymweld ag Ysgol Gynradd Gilwern i brofi eu taith Cwricwlwm i Gymru ‘Gilwern o Amgylch y Byd’.
Roedd yna wefr o gwmpas yr ysgol gyda’r disgyblion a’r staff yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau corfforol, roedd pawb yn amlwg yn mwynhau.
Mae Roger wedi dangos bod y dull y mae’r ysgol wedi’i fabwysiadu i gyd-adeiladu eu Cwricwlwm i Gymru wedi’i wneud trwy gydweithio cryf o fewn yr ysgol gyda’i staff ei hun yn dangos sgiliau arwain penodol ac yn cymryd cyfrifoldeb am feysydd dysgu a sgiliau.
Un o gryfderau’r daith hon yw’r cydweithio effeithiol gyda’r ysgolion ar draws y clwstwr ar waith prosiect ar y cyd sy’n canolbwyntio ar y sgiliau allweddol.
Roedd gallu bod yn dyst personol i’r prosiect yn fy ngalluogi i weld y ffordd y mae diwylliant yr ysgol wedi darparu’r amgylchedd ac wedi galluogi pawb i fod y dysgwr gorau y gallant fod, yn ddisgyblion a staff fel ei gilydd. Os mai dyma sut mae ein disgyblion yn dysgu ledled Cymru, yna mae gennym ni lawer i’w ddathlu.”
Mae Ysgol Gynradd Gilwern wedi ymrwymo i ddatblygiad plant moesegol ac wedi dewis elusen wahanol i’w chefnogi ar bob cymal 10,000km o’u taith.
Yn ystod y 10,000km cyntaf cododd Gilwern £4,300 ar gyfer Alzheimer’s UK. Mae’r ysgol bellach yn cefnogi Hosbis Dewi Sant yn ystod yr ail gam yn eu taith ac eisoes wedi codi dros £2,000. Mae Gilwern yn croesawu unrhyw gefnogaeth a rhoddion i Hosbis Dewi Sant trwy’r dudalen JustGiving.
I ddarganfod mwy am “Gilwern o Amgylch y Byd mewn Cwricwlwm Newydd” dilynwch @Gilwern_School ar Trydar.