Skip to main content
English | Cymraeg

Yr Athro Mererid Hopwood – Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050

[Cynnwys Cyfrwng Cymraeg yn Unig]

Darganfyddwch fewnwelediadau, trafodaethau, a chyflwyniadau allweddol o’n cynhadledd Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050 ar 1 Mai 2024.

Daeth y gynhadledd cyfrwng Cymraeg hon â phrifathrawon, uwch arweinwyr, a dylanwadwyr addysgol o wahanol sectorau ynghyd i ddathlu cynnydd addysg Gymraeg a thrafod y daith uchelgeisiol tuag at gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r recordiad hwn yn cynnwys yr Athro Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.

Cynhaliwyd y gynhadledd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yr Athro Mererid Hopwood

Mae Mererid Hopwood wedi treulio ei gyrfa ym myd addysg, ieithoedd a llenyddiaeth. Mae’n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwobr Llyfr y Flwyddyn, (barddoniaeth), Gwobr Tir na n-Og (llyfrau plant) a derbyniodd Fedal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli (2023). Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae wrth ei bodd yn cydweithio ag artistiaid o wahanol gelfyddydau, o ddawns i ddrama, o gelfyddyd weledol i ffilm a cherddoriaeth. Mae’n un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Waldo Willams ac yn Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.