Skip to main content
English | Cymraeg

Lles Arweinwyr Addysgol yng Nghymru: Eu Hawliau

Mae’r ymchwiliad hwn a gynhaliwyd gan Gymdeithion yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn mynd i’r afael â’r angen dybryd i wella lles arweinwyr addysgol ledled Cymru. Mae’r ymchwil yn amlygu’r rheidrwydd moesol i flaenoriaethu lles arweinwyr ar bob lefel o system addysg Cymru. Mae’r canfyddiadau’n adlewyrchu profiadau byw arweinwyr a rannodd eu safbwyntiau ar yr heriau y maent yn eu hwynebu, gan gynnwys y rhai sy’n cynnal yr ymchwil. Nod yr adroddiad hwn yw ymhelaethu ar eu lleisiau a thynnu sylw at y materion dybryd sy’n effeithio ar arweinwyr ysgolion heddiw.

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu argymhellion gweithredadwy, uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar atebion i arwain Cymru tuag at ddull cenedlaethol o gefnogi lles arweinwyr, gyda’r gobaith o ysgogi trafodaeth ystyrlon a gweithredu prydlon ar draws y system addysg.

Lawrlwythwych y papur