Skip to main content
English | Cymraeg

Sut Beth yw Dysgu Digidol yn Ysgol Pentre’r Graig

Ysgol Gynradd Pentre’r Graig

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr cyfredol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.

Gellir cael gafael ar ein Grant Arloesedd drwy’r Llwybr Arloesedd ac mae’n cael ei annog ymysg y rhai a fynychodd y Gyfres Arloesedd. Bu Cyfres Arloesedd 2022 yn archwilio ‘Arloesedd Digidol’ a chyflwynodd y cyfranogwyr syniadau am brosiectau i wella cyfleoedd digidol yn eu hysgolion.

Buom yn siarad â Ben Saunders, Pennaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Ysgol Gynradd Pentre’r Graig, i ganfod sut y clywodd am y Grant Arloesedd drwy’r awdurdod lleol a darganfod manteision datblygu a chwblhau arweinyddiaeth addysgol drwy ein Llwybr Arloesedd.

 

Y Broblem

Ar ôl cynnal archwiliad staff drwy’r holiadur Forms, roedd Ben yn gallu gweld bod angen help ar aelodau staff Ysgol Gynradd Pentre’r Graig i ddatblygu eu sgiliau cyfrifiadurol fel un o elfennau ‘Beth sy’n Bwysig’ Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Ben sy’n esbonio: “Drwy’r holiadur, gallwn weld bod hyder y staff yn isel. Drwy ddarparu sgiliau cyfrifiadurol gyda dyfeisiau a heb ddyfeisiau gallwn weld sut roedd y staff yn ymateb i wahanol weithgareddau.” O ganlyniad, sylweddolodd Ben ar yr un pryd fod angen iddo ddatblygu ei sgiliau cyfrifiadurol ei hun drwy ddatblygiad proffesiynol. Felly, ymgeisiodd Ben am ein Grant Arloesedd drwy gynnig y byddai ei bresenoldeb ar y cwrs DPP Technocamps ar gyfer Meddwl Cyfrifiadurol, yn ei alluogi i ddefnyddio’r grant i’w ryddhau o’r dosbarth i weithio gydag aelodau staff i ddarparu gwersi meddwl cyfrifiadurol. Yn ei dro, roedd Ben yn gobeithio y byddai hyn yn rhoi’r hyder angenrheidiol i staff ac yn sicrhau gweledigaeth ddigidol Ysgol Gynradd Pentre’r Graig a’i gallu i addasu ar gyfer y dyfodol. Meddai Ben: “Drwy ddatblygu a mapio cymhwysedd digidol ar draws yr holl Feysydd Dysgu a Phrofiad, byddwn yn gallu gweld cynnydd y dysgwyr ac unrhyw fylchau mewn dealltwriaeth. Bydd dysgu proffesiynol yn hollbwysig fel rhan o’r cymhwyso hwn a’r cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill, rhannu syniadau, a datblygu fy sgiliau personol, a drwy wneud hyn byddaf yn gallu rhannu hyn ymhellach a pharatoi athrawon eraill yn yr ysgol.”

 

Y Fethodoleg

Derbyniodd Ysgol Gynradd Pentre’r Graig eu Grant Arloesedd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd a chamau cyntaf Ben oedd dod o hyd i ffyrdd i ddatblygu ei sgiliau ei hun fel y gallai gefnogi aelodau staff. Roedd hyn yn golygu mynychu cwrs Technocamps a gynhaliwyd rhwng canol Hydref a mis Ionawr a’i galluogodd i ddarparu dwy sesiwn hyfforddi i staff ym mis Chwefror a oedd yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i athrawon ar feddwl cyfrifiadurol gyda dyfeisiau a heb ddyfeisiau drwy Scratch. Yn sgil y Grant Arloesedd roedd Ben yn gallu cael ei ryddhau o’r dosbarth i helpu’r athrawon i ddatblygu eu sgiliau addysgu eu hunain drwy gynnal sesiynau un-i-un, hanner diwrnod drwy weithio gyda nhw yn eu lleoliadau dosbarth eu hunain ar gyfrifiadura a oedd yn gysylltiedig â’u pynciau.

Fel gydag unrhyw newid, fe wynebodd Ben rai heriau, fel yr esbonia: “Dwi wastad wedi dysgu cyfnod allweddol 2, felly roedd cefnogi’r cam sylfaen a chyfnod allweddol 1 yn her i mi ar y dechrau. Ond trwy weithio gyda’r staff fe lwyddon ni i gynllunio a darparu sesiynau addas ac fe wnes i fagu mwy o hyder.” Felly, fe wnaeth y Grant Arloesedd nid yn unig helpu Ben i ddatblygu cymwyseddau digidol ymhlith staff a dysgwyr, ond bu’n hwb i’w ddatblygiad proffesiynol ef ei hun hefyd.

 

Y Canlyniadau

Gyda’r prosiect bellach wedi’i gwblhau, mae Ben, a phawb arall yn Ysgol Gynradd Pentre’r Graig, yn gallu gweld y gwahaniaeth y mae’r Grant Arloesedd wedi’i wneud i arloesi digidol yn yr ysgol. Mae Ben yn cadarnhau: “Mae staff nawr yn defnyddio cyfrifiadura mewn gwersi cymaint â phosibl ac ar dro dysgu diweddar, ro’n i’n gallu gweld sgiliau cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio ym mhob dosbarth. Roedd yna amrywiaeth o sgiliau gyda dyfeisiau a heb ddyfeisiau’n cael eu defnyddio ac mae’r staff yn magu hyder ac yn mentro’n ofalus e.e. yn addysgu y tu hwnt i’w cylch cysur arferol.”

Dim ond canmoliaeth oedd gan yr athrawon am arloesi digidol Ben hefyd:

  • “Mae wedi gwneud i mi feddwl yn fwy creadigol am gynllunio ar gyfer Scratch ac wedi fy ngwneud i’n fwy ymwybodol o fersiynau heb ddyfeisiau. Dwi’n fwy hyderus i’w addysgu erbyn hyn.”
  • “Mae’n dda gwybod mod i wedi addysgu gweithgareddau heb ddyfeisiau a do’n i ddim yn gwybod ei fod yn dod o dan meddwl cyfrifiadurol.”
  • “Dwi wedi cael hwb i’m hyder a’m hymwybyddiaeth o’r elfennau a sut maen nhw’n edrych – gyda dyfeisiau a heb ddyfeisiau.”

Ond nid dyna ddiwedd taith arloesi digidol Ysgol Gynradd Pentre’r Graig. Bydd Ben yn parhau i gefnogi’r holl staff gyda hyfforddiant ar feddwl cyfrifiadurol. Bydd yn gwneud hyn drwy gyfarfodydd staff wedi’u cynllunio ac yn ystod gwasanaethau ysgol fel bod holl aelodau’r ysgol yn gallu parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am feddwl cyfrifiadurol.

 

Y Dyfodol

Rhan o’n Llwybr Arloesedd yw edrych tua’r dyfodol, ac mae’n hawdd gweld sut y gall ysgolion ledled Cymru gael eu hysbrydoli gan yr arloesi digidol sydd wedi’i feithrin gan Ysgol Gynradd Pentre’r Graig. Trwy dderbyn y Grant Arloesedd, llwyddodd Ben i hyfforddi staff ym maes meddwl cyfrifiadurol, defnyddio algorithmau, defnyddio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a datblygu rhaglenni codio fel Scratch ar draws y cwricwlwm. Drwy wneud hyn, roedd modd i staff ennyn sylw’r dysgwyr oherwydd eu bod yn hyderus yn eu hyfforddiant a’u gwybodaeth. Wrth i Ben edrych tuag at ddyfodol arloesedd digidol yr ysgol, mae’n meddwl y bydd athrawon yn defnyddio cyfrifiadura fel adnodd i’w helpu i gyflwyno pynciau eraill ar draws yr ysgol, gan helpu’r ysgol gyfan i wella eu sgiliau digidol. Meddai Ben: “Y cam nesaf o ran datblygu agenda ddigidol yr ysgol yw prynu citiau codio Osmo yn ogystal â Microbits a Raspberry Pis i wella sgiliau pawb ymhellach. Mae gen i ddiddordeb mewn edrych ar ffyrdd eraill o ddatblygu cronfeydd data i’r disgyblion iau uwch hefyd; mae J2Data yn dda, ond fe hoffwn edrych ar ffyrdd eraill o gyflawni hyn.

 

Cyngor i eraill

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cefnogi llawer o ysgolion yng Nghymru ar eu taith arloesi. Meddai Ben: “Heb y Grant Arloesedd, fe fydden i wedi’i chael hi’n anodd rhannu beth dwi wedi’i ddysgu ag eraill. Gan fy mod i wedi gallu rhannu fy ngwybodaeth, mae dysgwyr yn ymgysylltu’n llawn ac yn datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol.

 

Gallwch ddysgu mwy am yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a’n Llwybr Arloesedd ar ein gwefan. Neu cysylltwch â ni yn post@agaa.cymru i siarad ag aelod o’r tîm.
Pob Astudiaethau Achos