Skip to main content
English | Cymraeg

Ysgol Maelor, Llannerch Banna

Systemau Presenoldeb a Deunydd Astudiaeth Achos

Cafwyd manylion ar gyfer yr astudiaeth achos hon gan Mrs Lisa Steen, Pennaeth Blwyddyn 9, Ysgol Maelor, Llannerch Banna. Mae’r astudiaeth ffocws hon yn rhan o raglen arweinyddiaeth consortia. Fel ysgol, y nod yw ystyried ffyrdd o wella presenoldeb yn yr ysgol gan weithio gyda disgyblion a rhieni.

NOD Gwella ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr.

Amcanion
  1. Creu mwy o ymwybyddiaeth o’r effaith y gall presenoldeb da ei chael ar gyflawniad academaidd ymysg disgyblion a rhieni.
  2. Cychwyn cynigion wedi’u harwain gan ddysgwyr sydd wedi’u targedu ar gyfer gwella, adrodd a gwobrwyo presenoldeb cadarnhaol trwy lais y myfyrwyr a’r arolwg PASS.
  3. Datblygu systemau i gofnodi, adrodd a gwobrwyo ffigurau presenoldeb amlach ar gyfer arweinwyr bugeiliol, dysgwyr a rhieni.
  4. Dylunio llenyddiaeth ategol i amlinellu datblygiadau’r dyfodol sy’n deillio o’r ymchwil a amlinellir uchod
  5. Yn strategol, ystyried system rhybudd presenoldeb sy’n haws i’w defnyddio.
Gweithredu

Creu mwy o ymwybyddiaeth o’r effaith y gall presenoldeb da ei chael ar gyflawniad academaidd ymysg disgyblion a rhieni.

Cynhaliwyd gwasanaeth ysgol gyda dysgwyr a chymorth bugeiliol i godi proffil presenoldeb. Effaith presenoldeb cadarnhaol oedd canolbwynt y neges.

b) Cychwyn cynigion wedi’u harwain gan ddysgwyr sydd wedi’u targedu ar gyfer gwella, adrodd a gwobrwyo presenoldeb cadarnhaol drwy lais y myfyrwyr a’r arolwg PASS

Defnyddir sesiynau Llais y Dysgwr dynodedig i sicrhau bod gan y corff hwn ymdeimlad o berchnogaeth dros gynnig canfyddiad o:

  • lwyddiant y systemau presennol i gyfathrebu ystadegau a thargedau unigol ar gyfer presenoldeb
  • cynnig syniadau newydd i gefnogi dysgwyr â chyfraddau presenoldeb is a gwobrwyo dysgwyr â chyfraddau presenoldeb mwy cadarnhaol.

Deilliannau mwy penodol oedd:

  • cynyddu amlder y gwobrau i bob hanner tymor yn hytrach nag yn flynyddol
  • gwobrwyo i fod yn fwy cynhwysol ac ymatebol i dargedau unigol yn hytrach na’r rhai dros 96% i ysgogi ac annog pob dysgwr

Mae’r data PASS wedi nodi ymyrraeth wedi’i thargedu â grwpiau neu unigolion i ddatgloi unrhyw rwystrau/heriau posibl i bresenoldeb gyda thargedau cyraeddadwy y cytunwyd arnynt wedi’u gosod. Mae amserlenni ar gyfer adolygiadau a gwobrau hefyd wedi’u hamlinellu. Fodd bynnag, nid oedd modd defnyddio’r holl ddata PASS oherwydd diffyg cydberthynas rhwng ystod neu ystadegau a chanlyniadau boddhad canrannol.

c) Datblygu systemau i gofnodi, adrodd a gwobrwyo ffigurau presenoldeb amlach ar gyfer arweinwyr bugeiliol, dysgwyr a rhieni

Roedd systemau a grëwyd o fewn SIMS yn darparu adroddiadau presenoldeb amlach sy’n cael eu rhannu â dysgwyr, cymorth bugeiliol, a rhieni. Mae’r system codio lliw hawdd ei defnyddio yn darparu adroddiad sy’n diffinio’n glir y newidiadau mewn patrymau presenoldeb ac adroddiadau y gellir eu didoli i raddio neu ganfod newidiadau canrannol ar draws grwpiau blwyddyn neu grwpiau dosbarth.

Mae cynllun peilot blwyddyn 9 sy’n defnyddio ‘llythyr rhybudd am bresenoldeb’ wedi cael ei dreialu a’i gyfathrebu yn amlach i godi proffil ac ymwybyddiaeth o ffigurau (ac effaith gostyngiad mewn ffigurau). Cafodd ymateb cadarnhaol gan rieni, a fyddai fel arall wedi cael adroddiad blynyddol ar y ffigurau hyn, ar wahanol adegau ar draws y flwyddyn academaidd, yn ôl y grŵp blwyddyn. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno i flynyddoedd 7 ac 8, gan symud ymlaen i adroddiad a dderbynnir deirgwaith yn y flwyddyn academaidd. Y nod yw codi ymwybyddiaeth o ddata presenoldeb a meithrin ymdeimlad o berchnogaeth o fewn teuluoedd a fydd yn arwain at arferion gwell wrth i ddysgwyr symud i flynyddoedd 10 i 13.

Mae systemau gwobrwyo yn cael eu hymgorffori i gydnabod newidiadau cadarnhaol mewn ffigurau bob hanner tymor. Ar hyn o bryd mae grŵp peilot yn treialu sut i gofnodi targedau mwy personol gyda’r bwriad o’u cyflwyno i bob tiwtor dosbarth pan fydd modd canoli’r systemau i adrodd am y rhain.

d) Dylunio llenyddiaeth ategol i amlinellu datblygiadau yn y dyfodol sy’n deillio o’r ymchwil a amlinellir uchod

Mae llenyddiaeth weledol yn cael ei dylunio, gan y Pennaeth Blwyddyn a’r cyswllt yn y tîm arweinyddiaeth i’w rhoi i ymwelwyr/staff/darpar rieni i barhau i godi proffil presenoldeb. Bydd y llenyddiaeth hon hefyd ar gael drwy wefan yr ysgol.

e) Yn strategol, ystyried system rhybudd presenoldeb sy’n haws ei defnyddio.

Mae trafodaethau’n canolbwyntio ar system ganolog, fel y ‘botwm Bwli,’ i adrodd am absenoldeb ar-lein gyda thab ar gyfer ‘Presenoldeb’. Bydd y wybodaeth a ddarperir trwy’r system hon yn gyson â’r llenyddiaeth weledol a ddosberthir i rieni ac â’r wybodaeth ar y wefan. Bydd hyn yn hyrwyddo neges gyson am bwysigrwydd presenoldeb da i ddysgwyr a rhieni.

Effaith
  • Mae mwy o ymwybyddiaeth o ystadegau presenoldeb personol a phenderfyniadau mwy gwybodus ynghylch absenoldebau yn y dyfodol yn cael eu gwneud gan rieni a dysgwyr.
  • Mae sgyrsiau pellach i gefnogi llesiant a phresenoldeb plant wedi cael eu gweithredu trwy gyswllt cychwynnol â rhieni mewn Cyfarfodydd Bugeiliol dilynol.
  • Mae grŵp o fyfyrwyr yn dangos gwell cymhelliant i gynyddu presenoldeb personol ac ennill gwobrau perthnasol.
  • Mae system olrhain presenoldeb fwy cadarn a chyson ar waith ar gyfer Penaethiaid Blwyddyn. Mae hyn yn eu galluogi i graffu’n fanwl a chadw at bolisi presenoldeb yr ysgol. Mae’n hawdd rhannu’r data hwn mewn cyfarfodydd cysylltiadau uwch a chysylltu â Gweithiwr Cymorth Addysg yr ysgol.
Pob Astudiaethau Achos