Skip to main content
English | Cymraeg

Hunanfyfyrio’r Dysgwr ar Ddysgu Annibynnol

Ysgol Gynradd Rhos

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr cyfredol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.

Gellir cael gafael ar ein Grant Arloesedd drwy’r Llwybr Arloesedd ac mae’n cael ei annog ymysg y rhai a fynychodd y Gyfres Arloesedd. Bu Cyfres Arloesedd 2022 yn archwilio ‘Arloesedd Digidol’ a chyflwynodd y cyfranogwyr syniadau am brosiectau i wella cyfleoedd digidol yn eu hysgolion.

Buom yn siarad â Suzanne Cox, Athrawes Blwyddyn 5 a 6 yn Ysgol Gynradd Rhos, i ganfod sut y clywodd am y Grant Arloesedd. Roedd Suzanne wedi mynychu ein Cyfres Arloesedd yn 2022 lle’r oedd wedi dysgu am fanteision datblygu dulliau newydd ac arloesol o arwain addysgol drwy ein Llwybr Arloesedd.

 

Y Broblem

Weithiau, mae problemau neu faterion ond yn dod yn amlwg pan fydd prosesau sydd wedi bodoli ers amser yn cael eu newid, a dyna a ddigwyddodd yn Ysgol Gynradd Rhos. Wrth i arferion yr ysgol symud i ganolbwyntio ar y broses ddysgu yn hytrach na’r deilliannau, daeth hi’n amlwg yn reit fuan bod angen arweiniad ar athrawon a dysgwyr ar sut i gofnodi eu myfyrdodau ar ddysgu. Roedd yr ysgol hefyd yn newid cyfeiriad gyda’i haddysgeg i ganolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau cyfannol ac roedd hyn yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr weithio’n annibynnol o ganlyniad. Suzanne sy’n ymhelaethu: “Mae ein syniad ar gyfer y Grant Arloesedd yn rhoi cyfle i ddysgwyr gofnodi eu hunanfyfyrio a rhannu hyn â’u cyfoedion a’u hathrawon.

Roedden ni’n bwriadu defnyddio’r cyllid i ryddhau athro i weithio gyda dysgwyr a staff i ddangos sut oedd mynd ati i gofnodi eu hunanfyfyrio a modelu pa iaith a sgiliau TG sy’n ofynnol.”

Syniad Ysgol Gynradd Rhos ar gyfer y Grant Arloesedd oedd gwella taith arloesi digidol yr ysgol drwy alluogi dysgwyr i gofnodi eu dysgu annibynnol gan ddefnyddio’r ap J2E ar Hwb. Byddai’r dechnoleg hon yn darparu manylion mewngofnodi personol i ddysgwyr a fyddai’n dangos tasgau i’w cwblhau ochr yn ochr ag ardal i gofnodi eu meddyliau am yr hyn roedden nhw’n ei ddysgu a pham, sut roedden nhw’n gwybod eu bod yn gwneud yn dda, pa broblemau roedden nhw wedi dod ar eu traws a sut yr aethon nhw ati i’w datrys, a beth allen nhw ei wneud i wella y tro nesaf.

 

Y Fethodoleg

Roedd rhaid i Ysgol Gynradd Rhos benderfynu mai ap J2E ar Hwb fyddai’r cyfrwng digidol gorau ar gyfer teithiau dysgu annibynnol y dysgwyr. Felly, y cam cyntaf ar ôl derbyn y Grant Arloesedd oedd penderfynu ar yr ap digidol gorau i’w ddefnyddio, cytuno ar y strwythur a pha gwestiynau y dylid eu defnyddio i annog dysgwyr i fyfyrio ar eu gwaith. Gyda’r nod o gwblhau eu prosiect arloesi digidol yn ystod tymor y Gwanwyn, aeth yr ysgol ati ar unwaith i geisio penderfynu pa ap fyddai orau i’w dysgwyr. Suzanne sy’n esbonio: “Roedden ni’n gobeithio defnyddio ap My Story fel ffordd o gofnodi myfyrdodau’r dysgwyr am eu dysgu annibynnol. Ond roedd yna broblem wrth lanlwytho cynnwys yr ap i gyfrifon Hwb y dysgwyr. Fe wnaeth y cyllid gyllido amser i’r athro gynllunio, gweithio gyda’r dysgwyr a myfyrio ar yr arloesi, gan addasu fel y bo’n briodol.”

Fel y mae Suzanne yn ei gadarnhau, galluogodd y Grant Arloesedd i’r ysgol gael athrawon cyflenwi fel y gallai’r athro a oedd yn arwain y prosiect hwn weithio gyda grŵp o ddysgwyr o Flynyddoedd 5 a 6 i’w dysgu sut i ddefnyddio’r arloesedd digidol newydd. Rhannwyd hyn wedyn â gweddill dosbarthiadau cyfnod allweddol 2 yn Ysgol Gynradd Rhos fel bod yr athrawon a’r dysgwyr yn deall sut i ddefnyddio’r rhaglen yn hyderus, a bydd hyn yn helpu i hysbysu athrawon yn well am eu dysgu annibynnol.

 

Y Canlyniadau

Gyda’r holl ddosbarthiadau perthnasol yn Ysgol Gynradd Rhos bellach wedi dysgu sut i gofnodi eu gwaith ymarferol a myfyrio ar eu dysgu, dywed Suzanne: “Mae llais y disgyblion yn dangos bod dysgwyr yn teimlo eu bod yn cymryd mwy o berchnogaeth dros eu dysgu drwy’r tasgau annibynnol.

Maen nhw’n dweud eu bod yn mwynhau’r ffordd hon o weithio ac mae arsylwadau’r athrawon yn nodi bod dysgwyr yn datblygu’r sgiliau i drefnu eu hunain a’u hadnoddau yn ogystal â rheoli eu hamser yn fwy effeithiol. Mae’r myfyrdodau yn dangos bod dysgwyr yn deall yn well sut maen nhw’n dysgu orau ac mae eu sgiliau metawybyddol yn gwella.”

Dyma rai o sylwadau’r dysgwyr eu hunain ar arloesi digidol diweddaraf yr ysgol:

  • “Dwi’n hoffi defnyddio technoleg gan ei fod yn hwyl ac yn ffordd wahanol o weithio.”
  • “Dwi’n hoffi defnyddio technoleg oherwydd rydyn ni’n gallu recordio ein lleisiau ar J2E i ddweud sut y gallwn ni wella’n gwaith a gwrando nôl i weld a ydy’r recordiad yn glir a chywir.”
  • “Dwi’n meddwl bod siarad am ein gwaith yn ein helpu i ddysgu gan eraill ac maen ein helpu ni i glywed syniadau a barn pobl eraill.”
  • “Mae’n wych gallu defnyddio iPads i siarad am fy ngwaith a beth sydd angen i mi ei wneud i wella gan ei fod yn gynt nag ysgrifennu ac rydyn ni’n gallu ei rannu â’n cyfoedion i’w helpu nhw.”

Rhan gyntaf taith arloesi ddigidol yr ysgol yn unig yw hyn. Mae’r ysgol nawr yn bwriadu  lledaenu’r prosiect hwn i bob dosbarth a bydd yn parhau i’w ddatblygu hyd nes y bydd pob dysgwr wedi profi manteision y system ddigidol newydd hon o ddysgu annibynnol. Meddai Suzanne: “Mae defnyddio dulliau digidol o gofnodi myfyrdodau dysgwyr am eu dysgu yn bendant yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w ddefnyddio gan ei fod mor hygyrch i’r holl ddysgwyr waeth beth fo’u hoedran a’u gallu.”

 

Y Dyfodol

Rhan o’n Llwybr Arloesedd yw edrych tua’r dyfodol, ac mae’n hawdd gweld sut mae ysgolion ledled Cymru yn gallu cael eu hysbrydoli gan yr arloesedd digidol sy’n cael ei meithrin gan Ysgol Gynradd Rhos. Mae ein Llwybr Arloesedd nid yn unig yn galluogi systemau addysg ledled Cymru i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth ddigidol, ond mae hefyd yn dod â phobl o feddylfryd tebyg at ei gilydd. Meddai Suzanne: “Gallwn rannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu fel rhan o’n taith arloesi drwy gyfarfodydd staff, yn ystod gwaith clwstwr, neu rwydweithiau ar-lein hyd yn oed.” Bydd rhannu syniadau ac arferion arloesol gyda’n gilydd o fudd i ddysgwyr ac arweinwyr addysgol wrth iddyn nhw geisio gwella eu hunain, eu prosesau a’u haddysgu.

 

Cyngor i eraill

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cefnogi llawer o ysgolion yng Nghymru ar eu taith arloesi. Meddai Suzanne: “Roedd hi’n hawdd gwneud cais am y Grant Arloesedd, ac fe roddodd amser a lle i ni arloesi ac ymchwilio yn yr ystafell ddosbarth. Yn ei dro, fe wnaeth hyn roi’r amser i athrawon ddatblygu eu hymarfer sy’n bwysig gan fod arloesi digidol yn cefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac yn darparu ffordd newydd o weithio.”

 

Gallwch ddysgu mwy am yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a’n Llwybr Arloesedd ar ein gwefan. Neu cysylltwch â ni yn post@agaa.cymru i siarad ag aelod o’r tîm.
Pob Astudiaethau Achos