Skip to main content
English | Cymraeg

Astudiaeth Achos Arferion Effeithiol Ysgol Uwchradd Y Rhyl

Yn Ysgol Uwchradd y Rhyl rydym yn ei ystyried yn gyfrifoldeb i ddileu unrhyw rwystrau sydd gan ein plant i fynychu’r ysgol. Rydym yn gwneud hyn yn gyfannol fel sefydliad ond rydym hefyd yn cynnig cymorth pwrpasol i bob plentyn unigol. Ysgol i ddisgyblion 11-16 oed yw Ysgol Uwchradd y Rhyl. Mae’r dalgylch yn chwartel cyntaf ac ail chwartel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ac mae ein plant yn dod o gartrefi incwm isel yn bennaf.

Mae perthnasoedd yn hollbwysig i ni, gyda’n plant, eu rhieni, a’r gymuned. Cafodd y perthnasoedd hyn eu herio’n sylweddol yn ystod y pandemig ac nid ydynt wedi adfer yn llawn eto. Rydym yn meithrin y perthnasoedd hyn trwy gyfathrebu agored parhaus a thrwy sicrhau bod ein drws bob amser ar agor a’n bod yn groesawgar. Rydym yn cynnig cefnogaeth a chymorth heb farn ac yn datblygu ac yn herio’r disgwyliadau o ran sut rydym am weithio gyda’n gilydd. Ein nod yw cefnogi ein holl blant trwy addysg a’u galluogi i lwyddo. Nid yw’n ymwneud â bai na grym. Mae’n ymwneud â’n helpu ni i helpu ein dysgwyr i ddod yn bopeth y gallant fod.

I ddechrau, rydym bob amser yn edrych ar y pethau bychain y gallwn eu gwneud:

  • A fyddai newid dosbarth neu ymyrryd mewn cyfeillgarwch yn helpu’r dysgwr hwn?
  • A fyddai cymorth cwnsela neu gymorth gweithiwr ieuenctid yn helpu?
  • A fyddai cyflwyno newid tymor byr i amserlen y dysgwr i’w alluogi i feithrin yr hyder sydd ei angen arno i fynychu’r ysgol yn llwyddiannus yn helpu?

Lle mae angen cymorth ychwanegol, rydym yn creu ac yn hwyluso cynnig cwricwlwm ar y cyd gan ddefnyddio ein gofal cofleidiol ehangach ar gyfer Lles, Cyflawni a Hafan.

Lles
  • Cynnig cwricwlwm ar y cyd i ddysgwyr sydd â rhwystrau emosiynol i fynychu
  • 4 aelod staff llawn amser, wedi’u hyfforddi mewn hunan-niweidio, cefnogaeth emosiynol, ymarfer ystyriol o drawma a therapi ymddygiad dialectig
  • Comisiynu staff ychwanegol i ddarparu cwnsela ysgol
  • Ardal ddynodedig o’r ysgol gyda 2 ystafell ddosbarth, 4 gofod bach a darpariaeth TG

Mae’r cynnig ar y cyd hwn yn caniatáu i’r dysgwr ddychwelyd i ardal lai sy’n cynnig mwy o gefnogaeth er mwyn meithrin ymddiriedaeth a hyder i fynychu, cyn dychwelyd i’r brif ffrwd yn raddol. Mae amseriad hyn yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn.

Hafan (ymddygiad)
  • Cynnig cwricwlwm pwrpasol a thematig sy’n cefnogi dysgwyr sydd â rhwystrau ymddygiadol i fynychu
  • 3 aelod staff llawn amser, wedi’u hyfforddi mewn tawelu ymddygiad, ymarfer adferol ac ymarfer ystyriol o drawma.
  • Staff ychwanegol wedi’u comisiynu i gyflwyno sesiynau ymgysylltu mewn pynciau fel chwaraeon a garddio
  • Ardal ddynodedig o’r ysgol gyda 2 ystafell ddosbarth a lle i ymneilltuo

Mae’r cynnig ar y cyd hwn yn caniatáu i’r dysgwr ddychwelyd i ardal lai sy’n cynnig mwy o gefnogaeth er mwyn meithrin ymddiriedaeth gyda gweithwyr allweddol a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gael gwared ar y rhwystrau ac i fynychu’n llwyddiannus. Yn dilyn hyn bydd y dysgwr yn dychwelyd i’r brif ffrwd yn raddol gyda chymorth ar gyflymder sy’n diwallu anghenion y dysgwr.

Cyflawni (Dysgu)
  • Cynnig cwricwlwm ar y cyd i blant sydd â rhwystrau dysgu i fynychu
  • 4 aelod staff llawn amser, wedi’u hyfforddi mewn ymyriadau llythrennedd, rhifedd a sgiliau sylfaenol.
  • Staff sydd wedi’u hyfforddi mewn cefnogi ac ymyriadau gydag anhwylderau’r sbectrwm awtistig ac ymarfer ystyriol o drawma
  • Cwricwlwm thematig pwrpasol ar lefel y plentyn sy’n ei ddilyn
  • Lle diogel a chefnogol ar gyfer amser i ffwrdd o’r cwricwlwm a’r cyfle i ddatblygu sgiliau cymdeithasol
  • Ardal bwrpasol ganolog yn yr ysgol gyda TG ag adnoddau da

Mae’r cynnig ar y cyd hwn yn caniatáu i’r dysgwr ddychwelyd i ardal lai sy’n cynnig mwy o gefnogaeth er mwyn meithrin ymddiriedaeth gyda gweithwyr allweddol a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gael gwared ar y rhwystrau ac i fynychu’n llwyddiannus. Mae’r ardal hon yn caniatáu i blant ddychwelyd yn raddol gyda chymorth i’r brif ffrwd neu, os yw’n briodol, i sicrhau bod eu cwricwlwm yn cael ei gyflwyno’n llawn yn yr ardal hon. Mae’r ardal hon yn caniatáu ar gyfer ymyriadau tawel mewn grwpiau bach ac i gyfeillgarwch gael ei ddatblygu gyda chymorth. Mae’n cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion sylweddol i fod yn llwyddiannus ac yn gyfforddus yn eu dysgu.

Yr hyn sy’n gwneud y dull hwn yn llwyddiannus yw bod y dysgwyr yn cael eu cefnogi gan dîm arbenigol sy’n gallu diwallu eu hanghenion ac ennill yr ymddiriedaeth sydd ei hangen i feithrin y perthnasoedd sydd eu hangen ar y dysgwyr. Dydyn nhw byth yn rhoi’r ffidil yn y to a dydyn nhw byth yn troi eu cefnau, eu hunig feini prawf llwyddiant yw llwyddiant y dysgwyr.

Mae yna anfanteision i’r dull hwn. Mae’n anstatudol ac yn ddrud. Rydym yn ysgol fawr sydd ag angen sylweddol ac mae’n rhaid i ni weithio fel hyn i fod yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae ein gallu i gynnal y cynnig hwn yn cael ei ddiffinio gan ein cyllid yn y dyfodol.

Pob Astudiaethau Achos