Skip to main content
English | Cymraeg

Strategaethau Presenoldeb yn Ysgol Arbennig Sant Christopher

Mae’r ysgol yn credu’n gryf bod cysylltiadau cryf â rhieni yn bwysig i gynnydd disgyblion. Rydym hefyd yn deall yr angen i gael dull sy’n amrywio ac, fel ein disgyblion, gall yr anghenion a’r cymorth sydd eu hangen ar rieni amrywio. I’r perwyl hwn rydym yn ymdrechu’n gyson i ddiwallu’r anghenion hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol a buddiol. Ein perthynas â rhieni a gofalwyr yw’r allwedd i sicrhau presenoldeb.

Rydym yn deall bod presenoldeb yn cael ei effeithio am nifer o resymau pan fydd disgyblion yn mynychu ysgol arbennig. Gallai hyn fod yn sgil eu hiechyd, eu cwsg, mynediad at drafnidiaeth neu gymorth i’r cartref ynghylch ymddygiad a diwallu anghenion. Er mwyn gwella presenoldeb, yn gyntaf mae angen i ni ddeall achos sylfaenol y diffyg presenoldeb. Mae hyn yn golygu bod buddsoddi yn ein tîm llesiant wedi bod yn allweddol i wella presenoldeb wrth iddynt ddechrau meithrin perthnasoedd o’r diwrnod cyntaf un pan fydd y pontio’n dechrau. Mae teuluoedd yn croesawu mynediad at staff sy’n gallu darparu cymorth pwrpasol ac uniongyrchol.

Mae’r tîm wedi gallu cynnig pecynnau pwrpasol i rieni sydd ag anghenion penodol. Er enghraifft, cefnogi rhiant a disgybl a oedd wedi’u lleoli mewn lloches. Roedd yr ymyrraeth yn caniatáu i leoliad y disgybl barhau. Roedd y tîm yn gallu mynd i gyfarfodydd gyda’r rhiant a chynghori mewn sefyllfaoedd ymarferol, er enghraifft cysylltu â darparwyr trafnidiaeth, adrannau budd-daliadau a thai ac asiantaethau cymorth allanol eraill. Dros amser mae ymddygiad y disgybl wedi tawelu’n sylweddol, ac mae presenoldeb wedi cynyddu a sefydlogi i dros 95%.

Symudodd teulu i’r ardal. Helpodd y tîm y teulu i ddod o hyd i lety addas a’u cyfeirio at wasanaethau amrywiol i sicrhau bod y teulu’n cael eu cefnogi. Cwblhawyd atgyfeiriad MAP hefyd. O ganlyniad, mae lleoliad y disgybl yn parhau ac yn ffynnu. Cafodd y teulu drafferthion i gael cartref a chafwyd llety brys. Ar yr adeg hon roedd galwadau lles yn cael eu gwneud bob dydd i’r teulu i gynnig cefnogaeth a sicrhau eu bod yn ddiogel.  Mae’r teulu bellach wedi ymgartrefu ac mae’r disgybl yn mynychu’r ysgol.

Cefnogodd y tîm riant sydd, dros amser, wedi datblygu drwgdybiaeth sylweddol o asiantaethau allanol gan gynnwys addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae gan y disgybl gyflyrau dysgu a meddygol cymhleth sy’n golygu bod ymgysylltu â’r gwasanaethau hyn yn hanfodol. Mae’r tîm wedi gweithio’n galed i feithrin ymddiriedaeth ac mae lefelau ymgysylltiad y rhiant yn cynyddu ac yn cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb a chyrhaeddiad y disgybl. Mae hyn wedi golygu cyfathrebu mewn amrywiaeth o ffyrdd a dulliau a chefnogi ymweliadau a chyfarfodydd. Rydym bellach yn cyfathrebu’n gyson â’r teulu gan eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau a sicrhau bod y disgybl yn mynychu’r ysgol a bod unrhyw absenoldeb yn cael ei gyfathrebu’n dda ac yn glir.

Mae’r tîm yn cefnogi teuluoedd mewn perthynas â gwasanaethau banciau bwyd. Maent yn holi staff i ystyried pwy allai fod angen cymorth. Yna byddant yn cysylltu ac yn cefnogi fel y bo’n briodol. Mae hyn wedi cefnogi nifer o ddisgyblion drwy sicrhau bod gan y teulu ddigon o fwyd. Mae hyn yn cefnogi dysgu, presenoldeb ac ymddygiad. Mae hefyd yn meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd.

Dulliau Cyfathrebu

Mae gan yr ysgol dudalen Facebook. Mae hyn yn mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar gyfnodau. Gwahoddir rhieni i ymuno â chyfnod penodol eu plentyn ac mae gwiriadau ar waith i wirio hunaniaeth rhieni. Mae hyn yn gweithredu fel hyb cyfathrebu lle gall rhieni dderbyn ac anfon negeseuon.

Mae pob athro yn defnyddio See Saw a gall pennaeth y cyfnod gysylltu a chyfathrebu â rhieni a dosbarthiadau unigol yn ôl yr angen.

Rydym yn parhau i ddefnyddio’r ffôn i hysbysu yn ôl yr angen, er enghraifft am ddamweiniau/anafiadau a allai ddigwydd yn ystod y diwrnod ysgol. Mae hyn yn sicrhau bod gan rieni’r holl wybodaeth berthnasol sy’n lleihau gorbryder ac yn eu galluogi i gadw disgyblion yn ddiogel os oes angen.

Mae negeseuon WhatsApp/testun wedi bod yn fuddiol iawn wrth ymgysylltu â theuluoedd sy’n amharod i siarad. Mae hyn hefyd yn caniatáu rhannu gwybodaeth amhrisiadwy sy’n cadw disgyblion yn ddiogel ac yn ein galluogi i ddathlu eu cyflawniadau.

Os bernir ei fod yn angenrheidiol ac yn hanfodol i ddiogelwch disgyblion, bydd y tîm yn ymweld â’r cartref neu’n ymchwilio trwy’r cyfryngau cymdeithasol am ffordd i gysylltu os oes angen.

Pontio

Mae pob teulu yn cael ymweliad/taith unigol o amgylch yr ysgol cyn dechrau. Mae’r rhain yn digwydd ar ôl ysgol i sicrhau bod pob aelod perthnasol o’r teulu yn gallu ymweld ac maent yn hyblyg. Maent hyd yn oed wedi cael eu trefnu yn ystod hanner tymor os oes angen. Mae’r adborth o’r rhain wedi bod yn gadarnhaol. Mae teuluoedd yn mwynhau’r cyfle i ofyn cwestiynau sy’n berthnasol i’w plentyn. Mae ymweliadau pellach yn cael eu cynnig os oes angen. Mae hyn yn caniatáu i’r tîm ddod i adnabod rhieni a disgyblion ymlaen llaw a meithrin ymddiriedaeth. Mae prosbectws yr ysgol a thaflen cyfnod yn cael eu cynnig i bob teulu yn ystod yr ymweliad.

Yna mae’r tîm yn gwerthuso’r gwaith papur pontio. Maent yn neilltuo amser ar gyfer apwyntiadau rhieni unigol i sicrhau bod lefelau uwch a mwy sensitif o wybodaeth yn cael eu casglu sy’n cefnogi pontio effeithiol. Mae’r broses hon hefyd yn parhau i adeiladu’r cysylltiadau ymddiriedaeth hynny â theuluoedd a sefydlu’r pwynt cyswllt clir hwnnw.

Mae gwaith papur sefydlu yn cael ei lanlwytho i TEAMS lle gall athrawon (yn seiliedig ar eu carfan ystafell ddosbarth) ei ddewis a’i ddarllen wrth baratoi ar gyfer pontio, paratoi gwaith a’r ystafell ddosbarth yn barod ar gyfer mis Medi. Os oes angen, gallaf gael sgyrsiau ar wahân gydag athrawon neu benaethiaid cyfnodau i drafod gwybodaeth sensitif neu gymhleth.

Yn ystod tymor yr hydref mae’r tîm yn parhau i gysylltu â theuluoedd newydd ac fe’u cefnogir i feithrin cysylltiadau uniongyrchol â phenaethiaid ac athrawon y cyfnod sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’u plant tra bod y tîm yn parhau i fod yn bwynt cyswllt i’r rhai sydd angen cymorth estynedig. Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda’r athrawon sy’n derbyn disgyblion newydd i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n effeithiol a bod cysylltiadau cyfathrebu yn cael eu sefydlu gyda staff a rhieni. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad a phresenoldeb rhieni a disgyblion.

Enghraifft o hyn oedd teulu a oedd angen chwe ymweliad oherwydd gorbryder y disgybl a’r rhiant. Roedd hyn yn caniatáu iddynt ymgyfarwyddo yn raddol â’r adeilad a chael mynediad i fwy a mwy o ardaloedd yn raddol. Bellach mae gan y disgybl gyfradd presenoldeb dda ac mae wedi setlo’n dda ym mywyd yr ysgol. Roedd y rhiant yn llawer mwy sefydlog ac mae’n ymgysylltu’n llawn â bywyd yr ysgol ac yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod pontio anodd hwn.

Cymorth i Rieni/Gofalwyr

Mae boreau coffi i rieni er mwyn trafod pa gyfleoedd/cymorth hyfforddi y byddent yn elwa arnynt yn annog ymgysylltiad rhieni/perthnasoedd a chysondeb gofal yn y cartref ac yn yr ysgol. Mae hyn wedi arwain at greu amserlen hyfforddiant lle gallwn werthuso’r hyn sy’n gweithio/sy’n fuddiol, tynnu/ychwanegu pynciau yn seiliedig ar angen. Rydym hefyd wedi trefnu cyfres o gyflwyniadau i rieni gan gynnwys gofal personol, cwsg, deiet a chymorth cyfreithiol. Rydym hefyd yn croesawu WFIS (Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam) bob hanner tymor. Maent yn cynnig cefnogaeth a chyngor annibynnol i rieni a gallant eu cyfeirio at ystod o wasanaethau lleol a ddarperir gan yr awdurdod lleol a grwpiau cymorth/elusennau.

Margaret Davies, Pennaeth, Ysgol Arbennig Sant Christopher
Pob Astudiaethau Achos