Mae’n bleser gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol gyhoeddi lansiad y comisiwn diweddaraf gan grŵp o Gymdeithion o Garfan 5, Lles Arweinwyr Addysgol yng Nghymru: Eu Hawliau
Mae’r ymchwiliad yn mynd i’r afael â’r angen dybryd i wella lles arweinwyr addysgol ledled Cymru ac yn amlygu’r rheidrwydd moesol iddo gael ei flaenoriaethu yn system addysg Cymru.
Bydd y comisiwn hwn yn cael ei lansio’n swyddogol yn ein Cynhadledd Lles Arweinwyr Addysgol a gynhelir ddydd Mercher, 27 Tachwedd yng Ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd. Mae tocynnau dal ar gael drwy fynd I Cynhadledd Lles Arweinwyr Addysgol – National Leadership Wales
Dywedodd Owain Jones, pennaeth Ysgol Aberaeron ac un o’r Cymdeithion a fu’n gweithio ar y comisiwn, “Mae’r cyfle i weithio gyda chydweithwyr profiadol o wahanol leoliadau addysgol ar y comisiwn pwysig hwn wedi bod yn fraint. Rydym wedi bod yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y sgwrs am les mewn lleoliadau addysgol ac yn gobeithio y gellir defnyddio ein comisiwn mewn ffordd gadarnhaol i symud yr agenda yn ei blaen.
“Yn dilyn lansiad y comisiwn, bydd ein grŵp yn ceisio parhau â’r sgwrs am les arweinwyr. Rydym yn chwilio ac yn pwyso am newidiadau gwirioneddol, parhaus ac wedi’u costio i gefnogi lles arweinwyr, fel y gallant ganolbwyntio ar les a darpariaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion a’r holl staff yn ein lleoliadau addysgol.”
Ychwanegodd Geraldine Foley, pennaeth Ysgol Gynradd Marlborough, a oedd hefyd yn aelod o’r grŵp: “Mae bod yn aelod o grŵp y comisiwn wedi bod yn fraint ac yn her broffesiynol. Roedd cryn dipyn o gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn dal llais arweinwyr ledled Cymru yn gywir ac yn dogfennu’n gywir y materion a oedd yn effeithio ar eu llesiant. Roeddem yn teimlo rheidrwydd moesol i ganolbwyntio ar atebion ac rydym wedi ceisio darparu argymhellion uchelgeisiol ond realistig a chyraeddadwy.
“Teimlwn mai’r man cychwyn yn unig yw adroddiad ein comisiwn ac rydym yn benderfynol gyda’n gilydd o weld yr argymhellion yn dwyn ffrwyth. Mae’r data presennol ar les arweinwyr ysgol wedi’i gysylltu’n annatod â’r argyfwng recriwtio a chadw. Os ydym am gael system addysg sy’n arwain y byd yng Nghymru, mae arnom angen arweinwyr sy’n ffynnu. Pan fydd Arweinwyr Ysgol yn ffynnu, mae dysgwyr yn ffynnu.”
I ddarllen adroddiad y comisiwn yn llawn, ewch i Lles Arweinwyr Addysgol yng Nghymru: Eu Hawliau – National Leadership Wales