Skip to main content
English | Cymraeg

Tegwen Ellis i siarad yng Nghynhadledd Cwricwlwm i Gymru Policy Insight Wales

Bydd Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, Tegwen Ellis, yn un o’r siaradwyr yng Nghynhadledd Cwricwlwm i Gymru: Dilyniant ac Asesu Policy Insight Wales a gynhelir ar-lein ddydd Gwener 31 Ionawr am 9yb-1:30yp. 

Bydd y gynhadledd yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar ei blaenoriaethau polisi ar gyfer cryfhau asesu a dilyniant a’r camau nesaf ar gyfer diwygio addysg. Bydd amrywiaeth o siaradwyr ysbrydoledig, gan gynnwys penaethiaid ac arbenigwyr addysgol, yn rhannu syniadau ymarferol i’ch cynorthwyo yn eich lleoliad. 

Wrth fod yn rhan o’r gynhadledd, dywedodd ein Prif Weithredwr, Tegwen Ellis: “Rwy’n falch iawn o gael fy ngwahodd i siarad yn y digwyddiad hwn, mae arweinyddiaeth gref yn hollbwysig i lwyddiant ein dysgwyr wrth gyflawni’r pedwar diben. 

“Yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru, mae arweinyddiaeth yn golygu arwain ein haddysgwyr drwy’r newidiadau mewn asesu a dilyniant, gan sicrhau bod yr arferion newydd hyn yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn cefnogi nodau cyffredinol y cwricwlwm. Mae’n ymwneud ag arwain gyda ffocws ar welliant parhaus ac arloesi, gan baratoi ein dysgwyr ar gyfer y dyfodol.” 

Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd, ac i archebu eich lle, ewch i Curriculum For Wales: Progression and Assessment Conference – Policy Insight Wales 

Yn ôl