Skip to main content
English | Cymraeg

Uwcholeuo Arweinyddiaeth Addysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Dyddiad: Dydd Sadwrn 3 Awst – Dydd Sadwrn 10 Awst

Lleoliad: Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, CF37 4PE

Rhif Stondin: 121-122

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn rhannu stondin gyda Chymwysterau Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, o ddydd Sadwrn 3 – dydd Sadwrn 10 Awst.

Rydym yn eich gwahodd yn gynnes i ymweld â’n stondin drwy gydol yr wythnos. Mae hwn yn gyfle gwych i gwrdd â’n tîm, dysgu mwy am ein gwaith, a thrafod arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru. P’un a ydych yn addysgwr, yn arweinydd, neu’n angerddol am wella canlyniadau i’n pobl ifanc, edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n stondin.

Beth i’w Ddisgwyl ar ein Stondin

Dysgwch am ein Gwaith:

Darganfyddwch waith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru sy’n cynnwys Cymeradwyo darpariaeth datblygu arweinyddiaeth, Papurau Cyfres Mewnwelediad a ymchwiliwyd ac a ysgrifennwyd gan academyddion blaenllaw o Gymru ac yn rhyngwladol, dysgwch am ein model Arweinyddiaeth System a mwy.

Ymgysylltu â’n Tîm:

Bydd aelodau o’r tîm, gan gynnwys arweinwyr addysgol profiadol, ar gael trwy gydol yr wythnos i rannu ein gwaith gyda chi.

Digwyddiad:

Ymunwch â’n digwyddiad Cydweithio er mwyn Cefnogi Uchelgais Cymraeg 2050 ar y cyd â Chymwysterau Cymru ar ddydd Mawrth 6 Awst 10:15yb yn cynnwys:

  • David Jones, Cadeirydd Bwrdd, Cymwysterau Cymru
  • Tegwen Ellis, Prif Weithredwr, Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru
  • Trystan Edwards, Pennaeth, Ysgol Garth Olwg
  • Llinos Roberts, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a’r Gymraeg, Coleg Cambria

Ymweld â Ni

Dewch i’n gweld yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gyda’n gilydd, gadewch i ni baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol mwy disglair ym myd addysg.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol a chadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau byw o’r maes.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Yn ôl