Skip to main content
English | Cymraeg

Dod ynghyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol i gefnogi uchelgais Cymraeg 2050

Mae Cymwysterau Cymru a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn falch o gydweithio i ddangos y ffyrdd arloesol y maent yn cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r ddau sefydliad wedi ymrwymo i gefnogi Cymraeg 2050 ac wedi cyd-gynnal digwyddiad yn gynharach heddiw gyda chydweithwyr addysg a oedd yn gallu siarad am eu gweithgaredd o fewn eu canolfannau a’u cymunedau.

Darparodd Trystan Edwards, Pennaeth Ysgol Garth Olwg a Llinos Roberts, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a’r Gymraeg Coleg Cambria, gipolwg ar lwyddiannau a heriau hyrwyddo’r Gymraeg a darparu addysg Gymraeg yn eu cymunedau.

Er mwyn galluogi’r Gymraeg i ffynnu yn ein hysgolion, ein colegau a’n cymunedau, mae angen parhau i weithio mewn partneriaeth ledled Cymru i gefnogi taith Llywodraeth Cymru i filiwn o siaradwyr Cymraeg ac mae ein sefydliadau yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r nod hwn.

Dywedodd David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru:

“Mae’n wych cael cyfle i siarad â’n rhanddeiliaid a gweithio gyda’n partneriaid yn yr Eisteddfod.

“Mae Cymraeg yn rhan mor annatod o’n gwaith yn Gymwysterau Cymru. Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r Gymraeg ac yn falch o gyd-gynnal y digwyddiad pwysig hwn.

“Rydym am i ddysgwyr allu cymryd cymwysterau yn eu dewis iaith. Fel rhan o’n diwygiadau i gymwysterau 14-16, mae’n ofynnol bod pob cymhwyster ar gyfer dysgwyr 14-16 oed ar gael yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym hefyd yn gyffrous am y cynnig Cymraeg 14-16 newydd a fydd yn galluogi dysgwyr i ddysgu a defnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.”

Dywedodd Tegwen Ellis, Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol:

“Rydym yn falch o fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto a chydweithio â’n partneriaid o Gymwysterau Cymru. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ganolbwynt ar gyfer creadigrwydd ac yn hyrwyddo cynwysoldeb, gan ddod â chynulleidfaoedd o gefndiroedd amrywiol o bob rhan o Gymru ynghyd. At hynny, mae’n darparu cyfleoedd unigryw ac amhrisiadwy i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ymgysylltu â chydweithwyr ac arweinwyr addysgol. Mae ymgysylltu ag eraill a chael trafodaethau parhaus yn allweddol i gyflawni uchelgais Cymru 2050.”

Yn ôl