Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn falch iawn o gyhoeddi cyflawniad sylweddol – rydym wedi derbyn achrediad Aur gan Fuddsoddwyr mewn Pobl ar gyfer yr achrediad “Rydym yn Buddsoddi mewn Pobl” ac “Rydym yn Buddsoddi mewn Lles”. Mae’r clod dwbl hwn yn dyst i’n hymrwymiad i roi pobl wrth galon popeth a wnawn.
Mae ennill achrediad Aur yn ymwneud â mwy na chael polisïau yn eu lle – mae’n dangos bod ein tîm cyfan yn cymryd rhan weithredol i’w gwireddu. Mae’n amlygu ymdrech ar y cyd i greu amgylchedd cefnogol lle mae lles yn flaenoriaeth a lle mae ein gwerthoedd yn cael eu cynnal yn gyson.
Mae achrediad aur yn ein gosod ymhlith grŵp elitaidd o sefydliadau sy’n cyflawni’r lefel hon o gydnabyddiaeth, gan danlinellu ein hymroddiad i ragoriaeth. Wrth wraidd y llwyddiant hwn mae ein ffocws diwyro ar gefnogi ein staff ac adeiladu strategaeth lles o ansawdd uchel y mae pawb yn ei chofleidio. Mae’r wobr yn cydnabod bod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn creu amgylchedd lle gall aelodau’r tîm gefnogi iechyd meddwl ei gilydd a dathlu llwyddiannau ei gilydd.
Mae ein Prif Weithredwr, Tegwen Ellis, yn cydnabod arwyddocâd y gydnabyddiaeth hon: “Mae’n fraint aruthrol bod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi ennill Achrediad Aur ar gyfer y ‘Rydym yn Buddsoddi mewn Lles’ a’r ‘Rydym yn Buddsoddi mewn Pobl’ gan Fuddsoddwyr mewn Pobl. Mae’r gwobrau hyn yn dyst i’n hymrwymiad diwyro i sicrhau amgylchedd gweithle cefnogol a ffyniannus. Ymroddiad ac angerdd ein tîm yw’r grymoedd y tu ôl i’n llwyddiant, ac mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu ein hymdrechion ar y cyd i flaenoriaethu llesiant a datblygiad ein pobl. Rwy’n falch o weithio i’r sefydliad hwn.”
Rhennir ei theimlad gyda’n tîm cyfan, y mae eu hymdrechion ar y cyd wedi gwneud y cyflawniad hwn yn bosibl.
Mae cenhadaeth yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol – “Ysbrydoli Arweinwyr – Cyfoethogi Bywydau” – yn llywio ein gwaith i ddod ag eglurder a chydlyniad i arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru. Trwy fuddsoddi yn ein pobl, ein nod yw meithrin arweinyddiaeth effeithiol a meithrin diwylliant lle gall arweinwyr â chefnogaeth dda ffynnu a chael effaith gadarnhaol ar y gymuned addysgol ehangach.
Dywedodd Dr Sue Davies, Cadeirydd y Bwrdd, “Fel Cadeirydd y sefydliad, rwyf wrth fy modd bod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi derbyn achrediad Aur gan Fuddsoddwyr mewn Pobl ar gyfer ‘Rydym yn Buddsoddi mewn Pobl’ ac ‘Rydym yn Buddsoddi mewn Lles’.
“Rwy’n llongyfarch y tîm ar y gwobrau mawreddog hyn. Mae’r gamp sylweddol hon yn glod dwbl sy’n amlygu’r gwaith ysbrydoledig a wneir gan y staff – yn enwedig ym maes lles. Mae’r gwobrau’n adlewyrchu ymrwymiad parhaus yr holl staff i sicrhau bod gweledigaeth a gwerthoedd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn parhau i gynnal rhagoriaeth yn ei holl weithgarwch.
“Mae’n parhau’n anrhydedd ac yn fraint i mi fod yn rhan o’r sefydliad deinamig hwn sy’n parhau’n driw i’w genhadaeth ‘Ysbrydoli Arweinwyr – Cyfoethogi Bywydau’, gan gael effaith werthfawr ar y gymuned addysgol ledled Cymru.”
Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl, “Hoffem longyfarch yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Mae ennill achrediad Aur yn ‘Rydym yn Buddsoddi mewn Pobl’ ac ‘Rydym yn Buddsoddi mewn Lles’ yn ymdrech wych i unrhyw sefydliad ac yn gosod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ymhlith grŵp dethol sy’n wirioneddol ddeall gwerth buddsoddi mewn pobl.”
Mae’r anrhydedd hwn nid yn unig yn adlewyrchu ein hymroddiad i’n tîm ein hunain ond mae hefyd yn cyd-fynd yn berffaith â’n gwerthoedd craidd, sydd wedi’u datblygu ar y cyd â’r sector addysgol. Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu diwylliant o ragoriaeth, cefnogaeth, a llwyddiant a rennir.