Gan ein bod bellach yn agosáu at flwyddyn a hanner i mewn i’r pandemig, nid yw cyflymder y gwaith a’r angen am arweinyddiaeth gref wedi lleihau wrth inni lywio ein ffordd yn ôl i ‘normalrwydd’. Rydym i gyd yn obeithiol ein bod bellach yn dechrau dod i’r amlwg o effeithiau gwaethaf COVID-19 ac, o’r herwydd, mae cynllunio ar gyfer adferiad eisoes ar y gweill. Wrth wneud cyfraniad at hyn, rwy’n parhau i weithio gydag ystod eang o bartneriaid fel Llywodraeth Cymru, Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru, Addysg, Iechyd, Tai, Gofal Cymdeithasol, Cyfiawnder Cymdeithasol, a’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol, gan roi fframweithiau o ganllawiau a chefnogaeth ar waith ar gyfer y sector gwaith ieuenctid ei hun, gan wrando ac ymateb i anghenion gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc a phlethu cyfraniad gwaith ieuenctid i flaenoriaethau sectorau eraill, lle bo hynny’n berthnasol.
Mae cyfraniad cadarnhaol gwaith ieuenctid dros yr 16 mis diwethaf wedi cael ei gydnabod gan Estyn, ymhlith eraill “Chwaraeodd gweithwyr ieuenctid awdurdod lleol rôl sylweddol yn cefnogi plant bregus, pobl ifanc a’u teuluoedd… Mae gweithwyr ieuenctid yn fedrus iawn wrth adeiladu perthnasoedd yn gyflym… Mae gweithwyr ieuenctid eisoes yn defnyddio technoleg i gyfathrebu â phobl ifanc… ”(t.30, Adroddiad Thematig Estyn, Ionawr 2021). O ystyried y berthynas unigryw rhwng person ifanc a’i weithiwr ieuenctid (un sy’n canolbwyntio ar y person ifanc, yn wirfoddol ac yn seiliedig ar ymddiriedaeth), mae’r lefel hon o ymgysylltu â theuluoedd (trwy fwy o fynediad i gartrefi, er ei fod bron yn bennaf o bell) ar y cyfan, wedi bod yn ganlyniad cadarnhaol ac efallai hyd yn oed yn ddadlennol mewn rhai meysydd. Mae hyn wedi bod yn wir am weithwyr ieuenctid a rhai gweithwyr proffesiynol eraill ond yn arbennig felly yn achos rhieni a gofalwyr nad oeddent o’r blaen yn ymwybodol o fanylion y gwaith sy’n digwydd rhwng person ifanc a’i weithiwr ieuenctid maent, gan mwyaf, wedi rhyfeddu at lefel y gefnogaeth a faint o ddysgu a datblygu sy’n digwydd.
Wrth i mi ysgrifennu, mae Wythnos Gwaith Ieuenctid Cymru (23ain – 30ain Mehefin) yn cael ei chynnal. Y thema eleni yw Mynegiannol, sy’n addas iawn o ystyried natur ormesol y cyfnodau clo angenrheidiol diweddar. Mae’n wych gweld lleoliadau yn dechrau ailagor a phobl ifanc yn dod i’r amlwg gyda brwdfrydedd, syniadau a chreadigrwydd, ond mae’n fwy pleserus fyth gweld pobl ifanc yn gosod eu hagenda eu hunain ac yn dylanwadu a dylunio darpariaeth eto.
Rwyf hefyd yn rhan o grŵp sy’n llunio’r rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyntaf mewn gwaith ieuenctid ers 15 mlynedd. Ariannwyd y rhaglen gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a Llywodraeth Cymru a’r gobaith yw y bydd yn treialu yn gynnar yn nhymor yr Hydref. Er y nodwyd bod angen y rhaglen ymhell cyn y pandemig, mae’n sicr y bydd yn chwarae rhan hanfodol yng nghyfraniad y sector i’n proses ailadeiladu.
Tim Opie, Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes (Ieuenctid), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes (Ieuenctid) gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yw Tim Opie, swydd y mae wedi’i dal am 15 mlynedd. Mae’r rôl yn cynnwys ymdrin â chylch gwaith polisi eang o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes, Hamdden a’r Gymraeg, gan gynnwys Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid ac amrywiaeth o feysydd polisi sy’n effeithio ar bobl ifanc 11-25 oed.