Skip to main content
English | Cymraeg

Addysg yng Nghymru: Gall y Dyfodol Fod yn Ddisglair

Nick Hudd, Uwch Ymarferydd Gwaith Ieuenctid, Cyngor Sir Benfro

Bydd yna rai sy’n darllen teitl yr erthygl hon eisoes yn amau’r fath optimistiaeth o ystyried yr heriau difrifol sy’n wynebu’r sector addysg heddiw. Bydd eraill yn cwestiynu pam bod ymarferydd o’r sector gwaith ieuenctid yn mynegi barn ar y system addysg. Byddaf yn ceisio mynd i’r afael â’r olaf yn gyntaf, oherwydd gellir dadlau ei fod yn haws ac yn symlach. Mae’r sector gwaith ieuenctid yn hwyluso dysgu anffurfiol a heb fod yn ffurfiol ac, ar adegau (datganiad dadleuol i rai o’r tu mewn i’r sector), yn defnyddio dulliau addysgol ffurfiol.   Gobeithio y bydd cynnwys yr erthygl hon yn helpu’r rhai sy’n cwestiynu i ailystyried.

Felly, gadewch i ni nawr gydnabod yr hyn rydym i gyd yn ymwybodool ohono, sef yr heriau amlwg a difrifol sy’n wynebu addysg ar hyn o bryd. I’r rhai sy’n gyfarwydd â dull ‘mapio tiriogaeth’ (territory mapping) Nomadic School of Business Anthony Willoughby, gellir ystyried y canlynol fel mynyddoedd a chorsydd. Mae angen rhoi ystyriaeth ddyledus i’r elfennau hyn ond nid ydynt yn anorchfygol, er bod angen llywio gofalus.

  1. Cyllid ac Adnoddau: Mae pob sefydliad addysgol, boed yn ysgol, coleg, prifysgol neu ddarpariaeth ieuenctid, yn cael trafferth gyda chyllid cyfyngedig, sy’n aml yn gostwng, ac mae hyn yn effeithio ar gyfleusterau, recriwtio staff, ac argaeledd deunyddiau ac adnoddau dysgu.
  2. Newidiadau i’r Cwricwlwm: Gall gweithredu’r cwricwlwm newydd i Gymru fod yn gymhleth, gan ofyn am hyfforddiant sylweddol i staff ac addasiadau mewn dulliau addysgu. Gyda mwy o gyfrifoldeb a phwyslais ar agenda sy’n dod i’r amlwg, megis digartrefedd ieuenctid, mae’r sector gwaith ieuenctid hefyd yn addasu i newidiadau tebyg o ran yr hyn y mae’n ei wneud a sut y mae’n ei wneud.
  3. Recriwtio a Chadw Staff: Mae prinder athrawon cymwys mewn rhai pynciau. Mewn perthynas â gwaith ieuenctid, mae nifer o ymgeiswyr sydd am hyfforddi at lefel gradd yn gostwng. Yn ogystal â’r ffactorau hyn, gall fod yn anodd cadw staff oherwydd llwyth gwaith, pryderon ynghylch cyflogau ac ansicrwydd ynghylch cyllid.
  4. Tlodi ac Anghydraddoldeb: Mae ffactorau economaidd-gymdeithasol yn cael effaith amlwg ar ymgysylltiad pobl ifanc ag addysg (yn ogystal â chyrhaeddiad), gydag unigolion difreintiedig yn aml yn wynebu rhwystrau i gyflawni eu potensial llawn.
  5. Asesu ac Atebolrwydd: Gall y newid i ddulliau asesu newydd a’r cydbwysedd rhwng atebolrwydd a chymorth fod yn heriol i ysgolion a’r sector gwaith ieuenctid. Mae’r olaf hefyd bellach yn destun fframwaith arolygu Estyn (ar ôl peidio â gwneud hyn ers blynyddoedd lawer).
  6. Rhaniad Digidol: Mae sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn cael mynediad cyfartal at dechnoleg ac adnoddau digidol, yn enwedig ar ôl y newid i hwyluso ar-lein yn ystod y pandemig, yn her sy’n dod i’r amlwg.
  7. Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a Niwroamrywiaeth: Gall diwallu anghenion amrywiol pobl ifanc ag AAA a/neu niwroamrywiaeth ofyn am lawer o adnoddau ac mae angen hyfforddiant a chymorth arbenigol. Mae hyn yn amlwg yn gofyn nid yn unig am fuddsoddiad ariannol ond hefyd amser ac adnoddau.
  8. Ymgysylltu â’r Gymuned: Mae annog cyfranogiad rhieni/gwarcheidwaid a’r gymuned yn frwydr barhaus i bob cangen o’r system addysg. Gellir dadlau bod hyn yn fwy heriol mewn cymunedau â lefelau uchel o amddifadedd.

Yn hytrach na cheisio darparu rhestr hirfaith, mae enghreifftiau o’r fath yn dangos lefel a chymhlethdod yr heriau y mae’r rheini ar draws y system addysg yn eu hwynebu. Felly pam yr optimistiaeth a awgrymir yn y teitl? Wel, oherwydd gall rhai o’r adnoddau sydd ar gael inni yma yng Nghymru, o’u defnyddio’n effeithiol, gynnig llwybr at welliant hyd yn oed os nad ydynt yn datrys rhai o’r materion hyn yn llawn. Gadewch i mi ddechrau trwy enwi dim ond rhai: Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, Cwricwlwm Newydd i Gymru Donaldson a Deddf Llesiat Cenedlaethau’r Dyfodol. Gallai alinio’r tair menter hyn yn agosach greu fframwaith cydlynol ar gyfer system addysg wirioneddol gydweithredol a chynhwysfawr sy’n cefnogi dysgu, datblygiad a lles pobl ifanc.

Er bod cysylltiadau amlwg rhwng y tair enghraifft a roddir ac, ar adegau, cyfeiriadau uniongyrchol at ei gilydd mewn rhai o’r dogfennau cysylltiedig, byddwn yn dadlau nad oes integreiddio llawn wedi digwydd eto. Felly, er mwyn osgoi adnabod problem heb gynnig datrysiad, dyma rai strategaethau posibl i fynd i’r afael â materion o’r fath:

  1. Rhannu Nodau ac Amcanion: Sicrhau bod nodau’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid, y Cwricwlwm Newydd i Gymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cyd-fynd. Os byddwn yn dechrau gyda’r cysylltiadau rhwng y tri, mae’n amlwg mai nod pob un yw gwella bywydau plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, nid yw’r elfennau tebyg yn gorffen yno ac maent yn cynnwys canolbwyntio ar ddatblygiad holistaidd, lles, a chyfranogiad gweithredol mewn cymdeithas. Dylid cynnwys cyfeiriadau at y mentrau hyn a nodau cyffredin ym mhob elfen o gynllunio, gan atgyfnerthu’r aliniad hwn. Nid yw gwasanaethu gofynion pob un yn unigol yn gwneud synnwyr yn strategol nac yn wir o safbwynt cyllid.
  2. Fframwaith Cydweithredol: Dyma’r cam nesaf, gan adeiladu ar yr uchod. Mae angen inni hyrwyddo a datblygu ymhellach y cydweithio rhwng pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, addysgwyr ffurfiol a sefydliadau cymunedol. Gall cyfarfodydd rheolaidd a mentrau ar y cyd sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn rhannu syniadau ac arferion gorau, gan atgyfnerthu’r cydweithio tuag at nodau cyffredin. Yn ogystal, gall dull o’r fath olygu bod yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial. Er enghraifft, os yw sefydliadau gwahanol yn hwyluso math o fforwm myfyrwyr/ieuenctid, siawns nad yw’n gwneud mwy o synnwyr eu cyfuno, rhannu adnoddau, a mwyhau llais pobl ifanc ar draws sawl agenda.
  3. Llais Ieuenctid a Chyfranogiad: Unwaith eto, mae hyn yn adeiladu ar y pwynt blaenorol. Boed yn ddarpariaeth ysgol neu waith ieuenctid, dylem i gyd geisio grymuso pobl ifanc i gael dweud eu dweud wrth ddatblygu a gweithredu systemau a phrosesau sydd â’r nod o’u gwasanaethu. Mae hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n pwysleisio cyfranogiad a chymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.
  4. Cyfleoedd Dysgu Integredig: Creu cyfleoedd ar gyfer dysgu trwy brofiad sy’n cyfuno addysg ffurfiol gyda gwaith ieuenctid anffurfiol, gyda’r naill a’r llall yn gyfartal â’i gilydd. Gallai hyn gynnwys prosiectau sy’n mynd i’r afael â materion byd go iawn, gan wella sgiliau a gwybodaeth wrth hyrwyddo lles. Yn fy rôl fy hun o helpu i fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, dyma’r union ddull yr ydym wedi’i fabwysiadu yn fy awdurdod fy hun.
  5. Ffocws ar Lesiant: Os byddwn yn ymgorffori’r dangosyddion lles o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn y fframweithiau gwaith ieuenctid a’r cwricwlwm, gall pob addysgwr chwarae rhan ragweithiol wrth helpu i nodi meysydd i’w gwella, yn ogystal â mesur effaith ac effeithiolrwydd ein rhaglenni ar fywydau pobl ifanc.Cyfeiriais at bwysau ar adnoddau a chyllid yn gynharach pan nodais ychydig yn unig o’r ‘mynyddoedd a chorsydd’ y mae angen inni eu llywio. Mae’n hanfodol felly inni ddeall beth sy’n cael effaith gadarnhaol yn hyn o beth ac, yn bwysicach fyth, beth sydd ddim, fel y gellir ailddyrannu cyllid ac adnoddau neu hyd yn oed arbed arian.
  6. Datblygiad Proffesiynol: Darparu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid ac addysgwyr ar gydgysylltiad y fframweithiau hyn yn ogystal â gwell dealltwriaeth o ddulliau ac addysgeg ei gilydd. Bydd hyn nid yn unig yn datblygu gwell dealltwriaeth o sut i roi strategaethau ar waith yn effeithiol sydd o fudd i ddysgu a lles pobl ifanc, ond hefyd yn hyrwyddo datblygiad system addysg wirioneddol gynhwysfawr lle mae gweithwyr, yn hytrach na chystadlu neu weithio mewn seilos ynysig, yn defnyddio strategaethau anffurfiol, ffurfiol a heb fod yn ffurfiol i ddiwallu anghenion pwrpasol unigolion.
  7. Monitro a Gwerthuso: Sefydlu metrigau i asesu effeithiolrwydd mentrau wedi’u halinio. Mae hyn yn sicrhau bod strategaethau a chynlluniau yn hyblyg ac yn ymateb i amrywiol anghenion pobl ifanc. Mae’n siŵr bod y pandemig wedi dangos pa mor gyflym y gall y tirwedd newid, ond hefyd pa mor effeithiol y gall pob cangen o addysg fod pan fo angen. Gadewch i ni ddysgu o hyn a chynnwys monitro a gwerthuso effeithiol sy’n llywio’r broses hon.
  8. Ymgysylltu â’r Gymuned: Mae enw’r sector ieuenctid a chymuned yn ei hun yn awgrymu’r rôl ragweithiol y gall ei chwarae wrth gynnwys teuluoedd a chymunedau yn ein system addysg. Nid cwestiynu gwerth mathau eraill o addysg yw hyn, ond yn hytrach ble i weithio’n fwy cydweithredol yn hyn o beth a chreu rhwydwaith cymorth sy’n atgyfnerthu dysgu a lles y tu mewn a tu allan i leoliadau ffurfiol.

Drwy feithrin mwy o aliniad ymhlith y fframweithiau hyn, gall Cymru greu dull mwy integredig sy’n cefnogi anghenion amrywiol ei phobl ifanc yn effeithiol, gan arwain yn y pen draw at well canlyniadau yn eu datblygiad personol, addysgol a chymdeithasol. Felly, gall y dyfodol fod yn ddisglair.

Yn ôl