Rachel Simmonds
Rheolwr Strategol, Gwasanaeth Ieuenctid Conwy
Ymunodd Rachel Simmonds â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2007, yn dilyn amrywiaeth o rolau blaenorol mewn lleoliadau cymunedol. Yn 2007, ymunodd Rachel â Chonwy fel Gweithiwr Ieuenctid Proffesiynol ac ers hynny mae ei rolau yn y sefydliad wedi datblygu’n barhaus, ac mae hi bellach yn Rheolwr Strategol Gwasanaeth Ieuenctid ac Addysg Awyr Agored Conwy.
Mae Rachel yn teimlo bod Gwaith Ieuenctid wrth wraidd y gymuned, gan ddarparu mannau gofalu a chroesawgar cadarnhaol i bobl ifanc gysylltu, rhannu a dysgu. Mae Rachel bob amser wedi bod ag angerdd a diddordeb mewn gwella iechyd meddwl pobl ifanc, gan gynnwys darparu profiadau a chyfleoedd awyr agored i wthio ffiniau, goresgyn heriau a chael hwyl. Mae Rachel yn teimlo bod y rhagolygon uchod wedi ei chefnogi o fewn ei gyrfa bersonol a phroffesiynol, heb fod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd!
Y tu allan i’r gwaith, mae Rachel yn gerddwr brwd ac yn mwynhau darganfod llefydd newydd. Mae Rachel yn briod gyda dau o blant ac yn mwynhau treulio amser gyda nhw yn archwilio, dysgu a chael hwyl. Mae hi hefyd yn llywodraethwr mewn ysgol gynradd leol.