Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Magwyd Meurig yn Ontario, Canada cyn i’w rieni symud yn ôl i Gwmaman Aberdâr yn ystod yr 80au. Wedi cyfnod byr fel disgybl yn yr ysgol Saesneg lleol, cafodd Meurig gyfle i ddechrau addysg Gymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr. Roedd ei gyfnod yn yr ysgol yn bleserus iawn ac o ganlyniad, roedd yn benderfyniad hawdd iddo ddilyn gyrfa fel athro. Mynychodd Meurig Rydfelen ar gyfer ei addysg uwchradd, cyn symud i Goleg y Drindod ac yna i Brifysgol Aberystwyth.
Dechreuodd Meurig ei yrfa fel athro drama a’r cyfryngau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ar ddechrau’r mileniwm. Yma dysgodd ei grefft, gan fwynhau pob eiliad a chael profiadau buddiol.
Yn 2011, symudodd Meurig i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd fel pennaeth Cynorthwyol, yna daeth yn ddirprwy bennaeth, cyn dod yn Bennaeth yr ysgol yn 2016.
“Mae’n fraint i gael arwain unig ysgol uwchradd Gymraeg sir Pen-y-bont ar Ogwr, trwy sicrhau fel Tîm Llan, ein bod yn rhoi’r addysg orau a chyfleoedd diri i’n dysgwyr trwy’r Gymraeg. Anrhydedd oedd yn 2022 i ennill Pennaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Cenedlaethol Cymru a gwobr arian Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson. Mae’n braf cael dathlu’r proffesiwn allweddol hwn ac hyrwyddo addysg Gymraeg ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt.”