Skip to main content
English | Cymraeg

Hyrwyddo’r Gymraeg: Datblygu Arferion Da

[Cynnwys Cyfrwng Cymraeg]

Darganfyddwch fewnwelediadau, trafodaethau, a chyflwyniadau allweddol o’n cynhadledd Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050 ar 1 Mai 2024.

Daeth y gynhadledd cyfrwng Cymraeg hon â phrifathrawon, uwch arweinwyr, a dylanwadwyr addysgol o wahanol sectorau ynghyd i ddathlu cynnydd addysg Gymraeg a thrafod y daith uchelgeisiol tuag at gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r recordiad hwn yn cynnwys:

  • Gavin Ashcroft, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn
  • Meurig Jones, Pennaeth, Ysgol Gyfun Llangynwyd
  • Dafydd Hughes, Pennaeth, Ysgol Caer Elen
  • Gwawr Maelor, Darlithydd mewn Addysg Cymraeg, Prifysgol Bangor

Cynhaliwyd y gynhadledd drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Gavin Ashcroft

Cafodd Gavin Ashcroft ei eni a’i fagu yn Rhydfelen ym Mhontypridd. Buodd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Heol-y-Celyn ac yna Ysgol Gyfun Rhydfelen. Yn y ddwy ysgol, derbyniodd brofiadau lu yn y traddodiadau Cymraeg a liniarodd y ffordd ar gyfer sefydlu nifer o adrannau a chorau adnabyddus drwy Gymru, fel Bro Taf a Chôr y Cwm. Mae Gavin yn hyfforddi Dawnswyr Nantgarw ac yn arweinydd ar Gor Merched Tonteg sy’n enwau cyfarwydd mewn eisteddfodau a gwyliau. Yn ei waith, mae Gavin yn bennaeth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yng Nghwm Rhondda. Mae’r ysgol yn ddiweddar iawn wedi ei chanmol am ei defnydd naturiol o’r iaith Gymraeg ac am y cyfleoedd gwerthfawr mae’r plant yn derbyn i sicrhau fod gan y disgyblion falchder a chariad at yr iaith.

 

Meurig Jones

Magwyd Meurig yn Ontario, Canada cyn i’w rieni symud yn ôl i Gwmaman Aberdâr yn ystod yr 80au. Wedi cyfnod byr fel disgybl yn yr ysgol Saesneg lleol, cafodd Meurig gyfle i ddechrau addysg Gymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr. Roedd ei gyfnod yn yr ysgol yn bleserus iawn ac o ganlyniad, roedd yn benderfyniad hawdd iddo ddilyn gyrfa fel athro. Mynychodd Meurig Rydfelen ar gyfer ei addysg uwchradd, cyn symud i Goleg y Drindod ac yna i Brifysgol Aberystwyth.

Dechreuodd Meurig ei yrfa fel athro drama a’r cyfryngau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ar ddechrau’r mileniwm. Yma dysgodd ei grefft, gan fwynhau pob eiliad a chael profiadau buddiol.

Yn 2011, symudodd Meurig i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd fel Pennaeth Cynorthwyol, yna daeth yn Ddirprwy Bennaeth, cyn dod yn Bennaeth yr ysgol yn 2016.

 

Dafydd Hughes

Cwblhaodd Dafydd Hughes ei addysg uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg y Drindod, Caerfyrddin a chychwynnodd ei yrfa fel athro Cymraeg a’r Dyniaethau yn Ysgol Dyffryn Taf, Hendy gwyn yn 1992. Bu’n Bennaeth Adran a Phennaeth Tŷ ac yna’n Gydlynydd Dysgu ac Addysgu a Dysgu Proffesiynol yn yr ysgol. Ymunodd ag Uwch Dîm Rheoli Ysgol y Preseli fel Pennaeth Cynorthwyol yn 2009 ac yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol bu’n gyfrifol am ddatblygu’r cwricwlwm ac am wella safonau dysgu ac addysgu. Cafodd ei benodi’n Bennaeth ar Ysgol Gymraeg Pob Oed Caer Elen, Hwlffordd sydd yn ysgol 3-16 yn Nhachwedd 2020.

 

Gwawr Maelor

Mae Gwawr yn gyn-athro a darlithydd mewn addysg gynradd ac uwchradd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor ac mae’n Arweinydd y Gymraeg ar draws y rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon [AGA] ac Astudiaethau Plant ac Ieuenctid. Mae ganddi ddiddordeb ym maes datblygu’r Gymraeg a gallu ieithyddol o fewn Ymarfer Cychwynnol Athrawon, dwyieithrwydd, cymwyseddau iaith a digidol. Mae maes ei ymchwil o fewn llenyddiaeth plant ac oedolion ac addysgeg iaith a llenyddiaeth mewn ysgolion ac yng nghyd-destun hyfforddiant AGA. Mae Gwawr yn cyfrannu’n gyson i drafodaethau a sgyrsiau cyfoes ym maes y Gymraeg a hyfforddiant athrawon a hybu darllen er pleser.