Darganfyddwch fewnwelediadau, trafodaethau, a chyflwyniadau allweddol o’n cynhadledd Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050 ar 1 Mai 2024.
Daeth y gynhadledd cyfrwng Cymraeg hon â phrifathrawon, uwch arweinwyr, a dylanwadwyr addysgol o wahanol sectorau ynghyd i ddathlu cynnydd addysg Gymraeg a thrafod y daith uchelgeisiol tuag at gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r recordiad hwn yn cynnwys:
Cynhaliwyd y gynhadledd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dr Gwenllian Lansdown Davies
Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies yn hanu o Fangor yn wreiddiol ac erbyn hyn wedi ymgartrefu gyda’i gŵr a’i phedwar o blant yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn. Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a byw am gyfnod yn Galisia a Brwsel cyn cwblhau gradd MScEcon a Doethuriaeth mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ble bu hefyd yn diwtor gwleidyddiaeth. Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli Ward Glanyrafon ar Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, treuliodd gyfnod yn gweithio fel Rheolwr Swyddfa Leanne Wood AS yn y Rhondda cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007. Yn 2011, fe’i phenodwyd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Swyddog Cyhoeddiadau a Chynorthwyydd Golygyddol y cyfnodolyn ymchwil ‘Gwerddon’. Cychwynnodd ar ei swydd gyda Mudiad Meithrin ym mis Medi 2014. Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’, gofal cofleidiol a meithrinfeydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin. Y Mudiad yw’r darparwr a’r hwylusydd mwyaf o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol yng Nghymru gyda dros fil o leoliadau ledled y wlad. Mae Gwenllian yn un o ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cronfa’r Loteri yng Nghymru a Chomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac yn gwirfoddoli yn y Cylch lleol ar y Pwyllgor fel yr Unigolyn Cyfrifol.
Dr Myfanwy Jones
Cafodd Myfanwy Jones ei magu yn Lledrod, yng Ngheredigion, ond mae hi bellach yn byw yn Llanarthne, Sir Gâr. Astudiodd Gymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, cyn gwneud doethuriaeth ym mhrifysgol Warwick. Dechreuodd ei gyrfa yn y maes cynllunio ieithyddol fel swyddog cyntaf Menter Iaith Abertawe. Yna, ar ôl cyfnod ym Mwrdd yr Iaith yn bennaeth ar yr Uned Ieuenctid, a chyfnod yn gweithio’n llawrydd wrth fagu’r plant, aeth i weithio fel Swyddog Datblygu’r Gymraeg yng Nghyngor Sir Gâr. Yno, roedd hi’n flaengar yn datblygu strategaeth y Cyngor i hybu’r Gymraeg yn y sir yn ogystal ag arwain a chydlynu Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg. Dechreuodd fel Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru ym Medi 2023, i ddatblygu strategaeth genedlaethol a phartneriaethau adeiladol i gefnogi, ac eirioli dros y rhwydwaith o 22 Menter Iaith dros Gymru. Mae Myfanwy’n angerddol am hyrwyddo’r Gymraeg ac yn grediniol fod y Mentrau Iaith yn arf hollbwysig yn ein hymdrechion i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae Myfanwy’n Gynghorydd Cymuned, yn is-gadeirydd ar gylchgrawn Barn ac yn rhedeg clwb jiwdo cyfrwng Cymraeg yn Drefach, Sir Gâr.
Angharad Lloyd Beynon
Mae Angharad yn Rheolwr Polisi a Rhanddeiliaid i City & Guilds ac yn gofalu am Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Mae’n gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid i alluogi pobl a sefydliadau i ddatgloi eu potensial a datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd angen ar gyfer twf personol ac economaidd.
Mae Angharad yn Aelod o CALC ac ar Fwrdd Arweinyddiaeth BITC. Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Grŵp Thrive Cymru, yn Gyd-gadeirydd FAB Cymru ac yn aelod o fwrdd cyflogaeth carchar Caerdydd EF.
Catrin Davis
Yn wreiddiol o’r Rhondda, a nawr yn byw yn Ffynnon Taf, mae Catrin Davis yn cydbwyso bod yn fam a gweithio fel Pennaeth Prentisiaethau i Urdd Gobaith Cymru. Nid yw ei rhieni yn siaradwyr Cymraeg, felly mae Catrin yn brawf o effaith addysg cyfrwng Cymraeg ar ei orau. Gyda chefndir mewn theatr a dawns, mae Catrin yn gweithio i’r Urdd ers saith mlynedd ac wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad Adran Brentisiaethau’r Mudiad o ddau aelod o staff i 25. Erbyn hyn, mae Adran Brentisiaethau’r Urdd yn darparu addysg i dros 150 o brentisiaid ledled Cymru o fewn y sectorau chwaraeon, gofal plant, addysg, awyr agored a gwaith Ieuenctid, ac yn arbenigo mewn cynnig rhaglenni cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.