Skip to main content
English | Cymraeg

[Podlediad Cyfrwng Cymraeg]

Sgyrsiau Arweinyddiaeth… Teithiau Arweinyddiaeth

Ymunwch ag Owen Evans (Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Estyn) a Dr Gwenllian Lansdown Davies (Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin) a Dewi Wyn Hughes Cydymaith yr Academi Arweinyddiaeth a Phennaeth Ysgol Gwynedd wrth iddynt rannu eu teithiau arweinyddiaeth.

Y Siaradwyr:
Dr Gwenllian Lansdown Davies

Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies yn hanu o Fangor yn wreiddiol ac erbyn hyn wedi ymgartrefu gyda’i gŵr a’i phedwar o blant yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn. Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a byw am gyfnod yn Galisia a Brwsel cyn cwblhau gradd MScEcon a Doethuriaeth mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ble bu hefyd yn diwtor gwleidyddiaeth. Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli Ward Glanyrafon ar Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, treuliodd gyfnod yn gweithio fel Rheolwr Swyddfa Leanne Wood AS yn y Rhondda cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007. Yn 2011, fe’i phenodwyd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Swyddog Cyhoeddiadau a Chynorthwyydd Golygyddol y cyfnodolyn ymchwil ‘Gwerddon’. Cychwynnodd ar ei swydd gyda Mudiad Meithrin ym mis Medi 2014. Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’, gofal cofleidiol a meithrinfeydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin. Y Mudiad yw’r darparwr a’r hwylusydd mwyaf o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol yng Nghymru gyda dros fil o leoliadau ledled y wlad. Mae Gwenllian yn un o ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cronfa’r Loteri yng Nghymru a Chomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac yn gwirfoddoli yn y Cylch lleol ar y Pwyllgor fel yr Unigolyn Cyfrifol.

 

Owen Evans

Mae Owen Evans yn gyfrifol am arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ogystal â rheolaeth, staffio a threfniadaeth Estyn. Mae’n rhoi cyngor annibynnol i Weinidogion Cymru, sy’n cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau yng Nghymru. Yn ogystal, mae Owen yn chwarae rôl allweddol yn gweithio’n agos gyda chyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio eraill yng Nghymru, i roi sylfaen i gynllunio a gweithio ar y cyd. Yn ogystal, fel Swyddog Cyfrifyddu Estyn, mae’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n briodol a’u bod yn rhoi gwerth am arian. Yn ogystal, mae’r Prif Arolygydd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cafodd Owen, sy’n Gymro Cymraeg, ei addysg yn Ysgol Penweddig a Choleg Ceredigion, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ymunodd Owen ag Estyn o’i swydd fel Prif Weithredwr S4C, y darlledwr Cymraeg. Cyn ymuno ag S4C, roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhwng 2008 a 2010, roedd yn gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned Cymru, ac am 10 mlynedd cyn hynny bu’n gweithio i BT, gan gynnwys fel aelod o dîm y DU yn datblygu strategaeth band eang BT. Mae wedi gwasanaethu fel aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn flaenorol bu’n gadeirydd Bwrdd Datblygu Addysg Caerdydd.

 

Dewi Wyn Hughes

Dewi Wyn Hughes yw Pennaeth Ysgol Gwynedd, ysgol gynradd o dros 540 o ddisgyblion sydd wedi’i lleoli yn nhref y Fflint, Gogledd Cymru. Mae Dewi wedi bod yn dysgu ers 2004 ac mae ganddo brofiad o ddysgu yn yr Unol Daleithiau. Roedd Dewi yn Ddirprwy Bennaeth yn yr ysgol o 2013 cyn dod yn Bennaeth yn 2019.

Bu Ysgol Gwynedd yn ffodus i fod yn rhan o’r rhaglen arwain ysgolion Arloesi gychwynnol pan lansiwyd y weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd yn ôl yn 2015. Drwy gydol y rhaglen arloesi bu Dewi’n gweithio’n helaeth ar lefel consortia lleol a chenedlaethol i fesur y gofynion dysgu proffesiynol sydd eu hangen i gynorthwyo gyda diwygio’r cwricwlwm.