Sut mae ysgolion yn defnyddio’r Adnodd Hunanwerthuso’r Gymraeg? Ymunwch â Meleri Light (Pennaeth y Gymraeg, Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru) wrth iddi sgwrsio gyda thri o benaethiaid—Catrin Coulthard (Ysgol Calon y Cymoedd), Trefor Jones (Ysgol Brynhyfryd) ac Owain Roberts (Ysgol Cybi). Maent yn rhannu eu profiadau o ddefnyddio’r Adnodd Hunanwerthuso’r Gymraeg yn eu hysgolion i hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg.