Skip to main content
English | Cymraeg

Datgloi’r Cwricwlwm: Yr Athro Ken Muir

Mae cyfres weminar Datgloi’r Cwricwlwm yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn rhaglen ddysgu broffesiynol sy’n archwilio Arweinyddiaeth yng Nghymru a’i chyd-destun addysgol. Mae pob gweminar yn cael ei harwain gan siaradwr gwadd nodedig.

Mae’r recordiadau gweminar hyn wedi’u cynllunio ar gyfer arweinwyr mewn rolau arwain uwch yn ysgolion, y sector ieuenctid a cholegau addysg bellach a’u nod yw eu cefnogi yn eu rolau fel arweinwyr systemau. Wedi’i recordio a’i gyflwyno’n ddigidol drwy’r platform Zoom.

Mae’r bennod hon yn cynnwys yr Athro Ken Muir. Ymddeolodd yr Ken Muir ym mis Mawrth 2021 o’i swydd fel Prif Weithredwr a Chofrestrydd Cyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban. Cyn ei benodi yn 2013, bu’n gweithio i Arolygiaeth Addysg Ei Mawrhydi ac fel Cyfarwyddwr Strategol (Ysgolion) a Chyfarwyddwr Arolygu.

Lawrlwythwch y sleidiau