Skip to main content
English | Cymraeg

Adroddiad Arolwg Lles: Sector Gwaith Ieuenctid

Ann Slater, Ymgynghorydd Datblygu Arweinyddiaeth a Sicrwydd Ansawdd – Ieuenctid ac ôl 16

Ym mis Chwefror 2021, cynhaliodd yr Academi Arweinyddiaeth arolwg i mewn i les arweinwyr yn y sector gwaith ieuenctid fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i Strategaeth Cymru Gyfan ar gyfer Lles Arweinwyr Addysgol. Gwahoddwyd uwch arweinwyr ac arweinwyr canol ym mhob maes y gwaith ieuenctid i ymateb i’r arolwg. Ysbrydolwyd cwestiynau’r arolwg gan Lles Arweinwyr Ysgolion: Arolwg Cenedlaethol a gynhaliwyd gan yr Academi Arweinyddiaeth yn haf 2020. Mae Adroddiad Arolwg Lles: Sector Gwaith Ieuenctid 2021 yn amlinellu canfyddiadau’r arolwg.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi rhoi ffocws canolog a’r pwysigrwydd addysg i fywyd cenedlaethol yng Nghymru. Fel mannau dysgu, mannau diogel a sefydliadau sy’n rhwymo ein cymunedau amrywiol gyda’i gilydd, mae gwaith ieuenctid a lleoliadau addysgol eraill wedi profi unwaith eto – os oedd angen mwy o dystiolaeth – eu bod gyda’i gilydd yn gweithredu fel curiad calon genedlaethol Cymru.

Mae’r gymuned addysgol wedi ymrwymo bod Cymru yn ‘dal i ddysgu’ drwy gydol y pandemig, ac mae arweinwyr mewn gwaith ieuenctid, ysgolion, colegau addysg bellach, a lleoliadau addysgol eraill ledled Cymru wedi bod ymhlith y rhai sydd o dan y straen personol a phroffesiynol mwyaf difrifol. Mae arweinwyr wedi goresgyn heriau aruthrol yn ystod cyfnod cythryblus felly maent wedi bod yn meddwl mwy am les pobl eraill, sydd fel arfer wedi dod ar draul ystyried eu lles eu hunain.

Fodd bynnag, mae’r pandemig wedi ymhelaethu – nid creu – argyfwng lles i arweinwyr addysgol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llwyth gwaith cynyddol, system atebolrwydd safon uchel a chyfres anodd (er ei bod i’w chroesawu) o ddiwygiadau addysgol, wedi rhoi mwy o faich ar y rheini sydd yn rôl arweinwyr addysgol yng Nghymru. Bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ymateb i ganfyddiadau’r arolwg.

 

Lawrlwythwch y papur