Boed dysgu proffesiynol yn astudiaeth unigol, ymholiad gan ymarferydd, arsylwi ar wers, ymgysylltu â chymunedau dysgu proffesiynol neu gyfuniad o’r rhain yn ddelfrydol, mae dysgu proffesiynol yn gofyn am ymrwymiad amser gan unigolion. Gall hyn fod yn fyrdymor, yn dymor canolig neu’n hirdymor, ac mae arweinwyr yn ymwybodol o hyn ac yn cefnogi lle bo’n bosibl.
Anaml iawn mae yna ddigon o adnoddau i gefnogi’r holl ddulliau, ond mae arweinwyr ac ymarferwyr yn edrych yn greadigol ar ffyrdd o droi dysgu yn ymarfer (Roy et al, 2021; Harris a Jones, 2019).
Mae arweinwyr yn cydnabod bod ysgolion yn systemau cymhleth a bod effaith dysgu proffesiynol yn hirdymor yn aml ac nad oes modd ei fesur yn y dull traddodiadol (Strom a Viesca, 2021; Malone et al, 2021). Fodd bynnag, mae gweithwyr proffesiynol unigol yn gyfrifol am werthuso’r ffyrdd y mae eu dysgu wedi neu heb effeithio ar eu hymarfer ac ar ddysgu eu myfyrwyr yn enwedig. O’u defnyddio’n briodol a beirniadol, gall y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, a chymryd rhan mewn ymholi proffesiynol, ddarparu tystiolaeth ddefnyddiol i alluogi hyn, 2020; Roy et al, 2021).
Cyn belled ag y bo’n bosibl, mae arweinwyr yn darparu mynediad i adnoddau perthnasol i gefnogi’r gwaith o gymhwyso’r dysgu mewn ymarfer a helpu i greu amser ar gyfer cynllunio, lle i gymhwyso, cyfleoedd i fyfyrio, addasu a dadansoddi effaith (OECD, 2018).
Gofynnwyd i arweinwyr ysgolion ledled Cymru ddweud wrthym sut maen nhw’n Arwain Dysgu Proffesiynol, gan ddefnyddio pob un o’r wyth dilysnod dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol fel man cychwyn. Mae’r astudiaethau achos sy’n deillio o hynny’n cynnig cipolwg ar bob math o ddulliau effeithiol o Arwain Dysgu Proffesiynol a fydd, gobeithio, yn dod â’r dilysnodau’n fyw ac yn ysbrydoli ffyrdd strategol newydd a ffres o feddwl i arweinwyr eraill yng Nghymru. Rydym am i chi Gael Eich Ysbrydoli.
Darllenwch yr astudiaethau achos
Os oes gan eich ysgol neu glwstwr enghraifft o ymarfer y gellid ei gynnwys yn yr adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol – o dan un (neu fwy) o wyth dilysnod dysgu proffesiynol gydag arweiniad da, rydym am glywed gennych chi.