Yma yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol rydyn ni’n edrych ymlaen yn barod at yr hyn sydd gan 2020 ar ein cyfer ac at apwyntio ein grŵp diweddaraf o Gymdeithion. Hwn fydd ein trydydd carfan ac fe fyddan nhw’n ymuno â 21 o Gymdeithion eraill o bob rhan o Gymru i fanteisio ar brofiadau a chyfleoedd i ddysgu am arweinyddiaeth a fydd yn eu harfogi ar gyfer gofynion y rôl gyffrous a heriol yma.

Ein Cymdeithion yw curiad calon yr Academi Arweinyddiaeth; nhw sy’n darparu ein gallu yn y system ehangach; maent yn eistedd ar ein paneli sy’n gwneud penderfyniadau ac yn darparu’r arweinyddiaeth sy’n angenrheidiol i ni yn y cyfnod eithriadol o gyffrous yma yn hanes addysg yng Nghymru. Yn anad dim, rhaid iddynt allu gweithredu yn y rhyng-gysylltiad yna rhwng polisi ac ymarfer – gan siarad â’r llywodraeth ac arbenigwyr â hyder a dilysrwydd yn rhinwedd eu profiad ymarferol o arwain ysgolion. Elfen arall o rôl y Cymdeithion yw sicrhau fod y sector addysg drwyddi draw yn teimlo cysylltiad â’r Academi ac yn deall ei gwerthoedd a’i hegwyddorion. Mae gan Gymru draddodiad hir a nodedig o feithrin addysgwyr rhagorol sydd wedi cyfrannu at lunio a diffinio ein cenedl, a thrwy waith ein Cymdeithion rydyn ni nawr yn galluogi arweinwyr ein hysgolion i rannu eu profiadau o arwain ysgolion effeithiol ar lwyfan cenedlaethol.

Un o’r heriau sy’n wynebu’r Academi yw sicrhau bod ein Cymdeithion yn cynrychioli pob maes, sector a rhanbarth. Wrth ffurfio ein trydydd carfan mae gennym ddiddordeb penodol mewn apwyntio Cymdeithion o ysgolion arbennig, Unedau Cyfeirio Disgyblion, ysgolion pob oed, ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion uwchradd yn ogystal ag ysgolion o ardaloedd daearyddol penodol. Mae hyn yn angenrheidiol os yw’r Academi am hawlio bod yn gorff gwirioneddol genedlaethol sy’n gallu gwrando ar ymarferwyr arweinyddiaeth a dylanwadu ar ymarfer arweinyddiaeth ar draws amrywiaeth mor eang â phosib o gyd-destunau. Nid tasg hawdd mo hynny gan fod angen ateb heriau logistaidd yn ogystal â nifer o heriau eraill, ond dylai Academi sy’n hawlio gwasanaethu ein holl arweinyddion fod yn ceisio gwrando ar bob arweinydd, ble bynnag y maent.

Rydyn ni’n gweithio i sicrhau fod pawb yn cael cyfle i ymgysylltu â’n gwaith, cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr a manteisio ar ein digwyddiadau. Mewn hinsawdd o ddiwygio sy’n teimlo’n ddi-ddiwedd rydyn ni’n dechrau unioni’r cydbwysedd rhwng polisi ac ymarfer. Arweinyddion ein hysgolion sydd yn y sefyllfa orau i gymryd penderfyniadau am y cwricwlwm ac am addysgu a dysgu. Yn unol â hynny, fe ddylent fod yn cyfrannu at lywio’r broses o lunio polisi cenedlaethol. Yn gynyddol ystyrir bod mesurau atebolrwydd sy’n dod o’r brig i lawr ac sydd â llawer yn y fantol yn gyfryngau hen ffasiwn ac aflwyddiannus i wella ysgolion – ac mae’r llywodraeth yn gwrando. Mae’r system addysg yng Nghymru yn symud i bwynt lle mae arweinwyr ysgol yn cyfrannu at bolisi’r llywodraeth; a’r polisi hwnnw, yn ei dro, yn galluogi arweinwyr ysgol i ddatblygu eu hymarfer gyda’i gilydd.

Huw Foster Evans – Prif Weithredwr