English | Cymraeg

Tim Opie

Rhanddeiliad

Ar hyn o bryd, Tim Opie yw’r Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes (Ieuenctid) gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), swydd y mae wedi bod ynddi ers pymtheg mlynedd. Mae’r rôl yn cynnwys ymdrin â chylch gwaith polisi eang o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth gyda ffocws arbennig ar Waith Ieuenctid a Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yn ogystal ag amrywiaeth o feysydd polisi sy’n effeithio ar bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

Gweithiwr Ieuenctid â chymhwyster proffesiynol yw Tim, ac mae wedi ennill Diploma Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant. Graddiodd o Brifysgol Birmingham gyda MEd mewn Anawsterau Emosiynol ac Ymddygiadol, Prifysgol Plymouth gyda BSc (Anrh) mewn Astudiaethau Polisi Cymdeithasol a Chyfiawnder Troseddol ac mae ganddo Ddyfarniad Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Tim Opie

Ein Rhanddeiliaid

Gweld y Cyfan
Dorian Pugh

Rhanddeiliad

Helen Ridout

Rhanddeiliad

Gethin Jones

Rhanddeiliad