English | Cymraeg

Helen Ridout

Rhanddeiliad

Pennaeth Ysgol Bryn Castell yw Helen Ridout ar hyn o bryd. Treuliodd Helen ran gyntaf ei gyrfa yng Nghaergrawnt, dychwelodd adref i Gymru ym mis Mehefin 2010 lle ymunodd â thîm Ysgol Bryn Castell fel Dirprwy Bennaeth a chafodd ei phenodi i swydd Pennaeth ym mis Mai 2014. Cyrhaeddodd Helen rownd derfynol y Gwobrau Addysgu Ysbrydoledig 2015 ar gyfer Pennaeth Ysgol Arbennig y Flwyddyn.

Mae Helen yn aelod gweithgar o ystod o rwydweithiau gan gynnwys Grŵp Ysgolion Arbennig Cymru Gyfan, Clwstwr Ysgolion Lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ysgol Arbennig CCD a Grŵp UCD ac mae wedi dal swydd Cadeirydd Cymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig De Cymru ers mis Chwefror 2019. Mae Helen hefyd yn Fentor CPCP ac yn aelod o Grŵp Rhanddeiliaid Ysgolion Arbennig Estyn.

“Fel cyfranogwr uchel ei barch o fewn ystod o rwydweithiau, rwy’n casglu safbwyntiau gan arweinwyr ar bob lefel o bob rhan o’r gymuned addysgol. Mae hyn yn fy ngalluogi i gefnogi a herio gwaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn effeithiol mewn ffordd arloesol sy’n canolbwyntio ar atebion, i ddylanwadu ar feddylfryd ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.”

Helen Ridout

Ein Rhanddeiliaid

Gweld y Cyfan
Dorian Pugh

Rhanddeiliad

Gethin Jones

Rhanddeiliad

Gareth Evans

Rhanddeiliad