Dechreuodd gyrfa addysgu Gethin ddeng mlynedd ar hugain yn ôl yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre ac mae wedi gweithio mewn ysgolion uwchradd prif ffrwd ac ysgolion arbennig ym Merthyr Tudful, Caerdydd ac Abertawe. Mae gan Gethin 26 mlynedd o brofiad o arwain mewn ysgolion ac mae wedi treulio’r 22 mlynedd diwethaf ar lefel uwch.
Ers naw mlynedd mae Gethin wedi bod yn bennaeth yn Ysgol Pen y Bryn, ysgol arbennig fawr 3-19 oed yn Abertawe. Ar hyn o bryd, mae’n cyfuno ei rôl gyda gwaith fel Cynghorydd Gwella Ysgolion uwchradd wedi’i gomisiynu ar gyfer Awdurdod Lleol Abertawe / Consortiwm Rhanbarthol Partneriaeth.
Mae Gethin yn aelod o nifer o rwydweithiau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol a grwpiau proffesiynol ffurfiol a nifer fwy o bartneriaethau anffurfiol. Mae’n gadeirydd Fforwm Cyllideb Abertawe a’r Rhwydwaith Partneriaeth Penaethiaid Ysgolion Arbennig.