Wedi ei eni ym Maesteg yn Nyffryn Llynfi, astudiodd Andrew bynciau Safon Uwch yn Ysgol Gyfun Maesteg cyn mynd i Brifysgol Lerpwl i gwblhau Gradd Anrhydedd BSc mewn Ffiseg. Symudodd yn ôl i’w Gymru enedigol ym 1990 lle bu’n astudio am PhD mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar ymchwil mewn nanodechnoleg a defnyddio deunyddiau lled-ddargludol mewn dyfeisiau electronig.
Ar ôl ennill ei Ddoethuriaeth ym 1994 dechreuodd weithio fel Darlithydd mewn Ffiseg yng Ngholeg Sir Gâr cyn symud ymlaen i amryw o wahanol swyddi rheoli o fewn y sefydliad. Ym mis Medi 2018, penodwyd Andrew yn Brif Weithredwr/Pennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, gyda chyfrifoldeb dros saith campws.
Mae’n aelod o’r Sefydliad Ffiseg (CPhys) ac mae wedi gweithio fel Aseswr Cymheiriaid gydag Estyn am bron i 20 mlynedd, yn asesu safonau colegau Addysg Bellach eraill ledled Cymru.