Skip to main content
English | Cymraeg

Tegwen Ellis

Prif Weithredwr

Tegwen Ellis yw Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Cyn hyn bu’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Datblygu Arweinyddiaeth a Sicrhau Ansawdd gyda’r sefydliad.

Mae Tegwen wedi bod yn rhan o ddatblygiad yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ers y cychwyn cyntaf, gan gynrychioli penaethiaid fel aelod o’r bwrdd cysgodol. Gan arwain y tîm a Chymdeithion, mae Tegwen yn chwistrellu gweledigaeth a strategaeth strategol gref, gan greu sefydliad cynaliadwy sy’n cefnogi arweinwyr ar bob lefel ledled Cymru. Mae Tegwen yn mwynhau bod yn rhan o dîm cryf o staff, Cymdeithion a secondeion a hoffai weld y sefydliad yn parhau i ddatblygu fel llais arweinyddiaeth, gan effeithio ar yr holl arweinwyr a dod yn sefydliad ‘mynd i’ ar gyfer popeth arweinyddiaeth yng Nghymru. Mae ganddi ddiddordeb proffesiynol arbennig mewn gwella’r cymorth lles ar gyfer pob arweinydd addysgol.

“Mae pobl wir yn edmygu, yn parchu ac yn gwerthfawrogi’r Prif Weithredwr, fel arweinydd ac fel person. Mae pobl yn ei weld yn ysbrydoledig ac mae ganddyn nhw lawer o barch tuag ati.” Buddsoddwyr mewn Pobl, o’r adroddiad Rydym yn buddsoddi mewn lles (Mis Mehefin 2021)

Dechreuodd Tegwen ei gyrfa addysgu yn 1988 ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi ymgymryd â rolau arwain amrywiol gan gynnwys cynghorydd rheoli perfformiad a safonwr cenedlaethol ac asesydd cymheiriaid gydag Estyn. Yn 2015, defnyddiodd ei sgiliau arwain systemau a sefydlodd a chadeiriodd Ffederasiwn Ysgolion Cyfrwng Cymraeg Consortiwm Canolbarth y De, gan sicrhau bod dysgu proffesiynol a gweithio o ysgol i ysgol yn rhan annatod o’i athroniaeth. Bu Tegwen yn bennaeth Ysgol Cynwyd Sant am bron i 20 mlynedd ac arweiniodd yr ysgol yn llwyddiannus trwy nifer o arolygiadau lle nodwyd bod ei harweinyddiaeth yn ‘flaengar ac arloesol’ a sicrhaodd ‘fod ei gweledigaeth a’i hathroniaeth yn cael eu rhannu’n llwyddiannus iawn gyda’r holl randdeiliaid’.

Yn 2017, Tegwen oedd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr a fynychwyd gan dros 90,000 o ymwelwyr.

Yn ddiweddar, cafodd Tegwen y teitl ‘Honoury National Affiliate’ gyda’r Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Arweinyddiaeth mewn Addysg (CIRLE) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hi hefyd yng nghamau olaf ei doethuriaeth broffesiynol mewn addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae Tegwen yn briod â Dyfrig sy’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol gydag Estyn ac mae ganddynt efeilliaid. Mae Jacob yn Gyfarwyddwr sy’n gyfrifol am gysylltiadau allanol a diwylliant i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae Efan yn athro ysgol gynradd mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd.

Yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau mynd â’i labradoodle am dro, treulio amser yn ei charafán yng Ngorllewin Cymru a mynychu digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon.

@tegwen_ellis   

Tegwen Ellis

Ein tîm

Gweld y Cyfan
Meleri Light

Pennaeth y Gymraeg

Charlotte Thomas

Rheolwr Cyfathrebu

Richard Edwards

Pennaeth Datblygu Arweinyddiaeth