Skip to main content
English | Cymraeg

Richard Edwards

Pennaeth Datblygu Arweinyddiaeth

Dechreuodd Richard addysgu mewn addysg gynradd yn 1998 ac mae ganddo brofiad o addysgu pob oedran o’r Derbyn i Flwyddyn 6. Roedd ei swydd addysgu gyntaf yn Ysgol Gynradd Llangynwyd ger Maesteg ac arweiniodd ei waith ar wella safonau mewn llythrennedd bechgyn iddo gael ei secondio i Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr fel cynghorydd ar gyfer Sgiliau Sylfaenol. Yn dilyn hyn, dychwelodd Richard i addysg gynradd fel uwch athro yn Ysgol Gynradd Tremains, Pen-y-bont ar Ogwr ac yna fel Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Gynradd Sgeti yn Abertawe. Yn fwy diweddar, cymerodd Richard yr awenau fel Pennaeth Ysgol Gynradd Tynyrheol. Arweiniodd yn llwyddiannus yr ysgol allan o Fesurau Arbennig Estyn i fod ar flaen y gad o ran cynllunio cwricwlwm ar gyfer ysgolion bach.

Yn ei amser hamdden mae Richard yn gefnogwr rygbi brwd ac yn gyn-chwaraewr i Glwb Rygbi Tregŵyr. Mae’n mwynhau uchafbwyntiau ac isafbwyntiau dilyn Tîm Rygbi Cymru. Angerdd arall Richard yw teithio a mynd ar wyliau gyda’i bartner Emma a’u merch. Mae hefyd yn gyfrinachol yn mwynhau chwarae bowls, ond nid yw am i neb wybod!

Richard Edwards

Ein tîm

Gweld y Cyfan
Meleri Light

Pennaeth y Gymraeg

Charlotte Thomas

Rheolwr Cyfathrebu

Emma Chivers

Cynghorydd Arwain ar gyfer Gwaith Ieuenctid