Skip to main content
English | Cymraeg

Chris Lewis

Cyfarwyddwr ar gyfer Polisi, Ymchwil a Chynllunio Strategol y Gweithlu

Mae Dr Chris Lewis yn arwain ar bolisi, ymchwil a datblygiad strategol. Sefydlodd y Gyfres Mewnwelediad sy’n cynnwys comisiynau ymchwil, adolygiadau o lenyddiaeth polisi ac academaidd rhyngwladol a darnau barn. Hoffai Chris weld yr Academi Arweinyddiaeth yn dod yn sefydliad allweddol sy’n cefnogi ac yn ymgysylltu â phob arweinydd addysgol ledled Cymru.

​​​​ Cyn hyn, bu Chris yn Bennaeth Addysg gyda’r British Council Wales, lle arweiniodd ar raglen waith i feithrin cysylltiadau rhyngwladol ar gyfer y sectorau addysg uwch, galwedigaethol ac ysgolion yng Nghymru.

​​​​ Mae gan Chris gefndir mewn ymchwil y gwyddorau cymdeithasol cymwysedig. Bu’n Rheolwr Datblygu Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe 2010-2014, ar ôl derbyn doethuriaeth mewn Polisi Cyhoeddus gan y sefydliad yn 2009. Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr ymchwil, treuliodd Chris nifer o flynyddoedd fel cynorthwydd addysgu rhan-amser yn Ysgol Gynradd Cwm yn Abertawe, gan weithio un-i-un gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Chris Lewis

Ein tîm

Gweld y Cyfan
Meleri Light

Pennaeth y Gymraeg

Charlotte Thomas

Rheolwr Cyfathrebu

Richard Edwards

Pennaeth Datblygu Arweinyddiaeth