Katie yw Llywydd etholedig presennol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, ac mae’n Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr yr undeb hefyd. Ar ôl graddio gyda 2:1 mewn Daearyddiaeth yn 2020, fe’i hetholwyd i rôl Swyddog Materion Cymreig yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae ei phrif ddiddordebau yn cynnwys cynaliadwyedd, hawliau dynol, cyfiawnder cymdeithasol a’r amgylchedd. Yn y dyfodol, mae’n gobeithio teithio, cwblhau gradd meistr a gweithio yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.