Skip to main content
English | Cymraeg

Dr John Graystone

AELOD O'R BWRDD

Mae Dr John Graystone wedi bod gyda’r Academi Arweinyddiaeth ers 2018 ac wedi mwynhau gweld y sefydliad yn tyfu ac yn datblygu. Mae ganddo brofiad helaeth yn y sector addysg ar ôl bod yn Brif Weithredwr ColegauCymru, cyfarwyddwr dros dro Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus i Oedolion Cymru a Chadeirydd Gweithredol Agored Cymru. Mae ei rolau presennol yn cynnwys Cadeirydd Agored Cymru ac Addysg Oedolion Cymru, ac aelod o gyngor cyllido addysg uwch Cymru, corff adolygu cyflogau annibynnol Cymru a llywodraethwr coleg Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae John yn ymgynghorydd uchel ei barch yn y sector addysg, ar ôl gweithio gyda dros 200 o gyrff llywodraethu ac uwch dimau rheoli yn y DU ac yn rhyngwladol. Fe’i cyhoeddwyd yn rheolaidd mewn cylchgronau fel y wasg addysg a’r Western Mail.

Fe dderbyniwyd John ei ddoethuriaeth yn 2000 am ymchwil i lywodraethu colegau AB yn y DU. Mae wedi derbyn cymrodoriaethau er anrhydedd gan Goleg Sir Gâr a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, Medal y Canghellor o Brifysgol Morgannwg ac mae wedi cael ei gydnabod am ei wasanaethau i addysg gan y Gymdeithas Rheoli Colegau. Yn 2017, fe dderbyniwyd gwobr cyflawniad oes mewn addysg oddi wrth y Times Educational Supplement.

Hoffai John weld yr Academi Arweinyddiaeth yn parhau i weithredu fel symbylydd syniadau arloesol a meddwl creadigol, gan gefnogi ystod eang o arweinwyr uchelgeisiol o ansawdd uchel. Dyheadau John yw i’r Academi Arweinyddiaeth gael ei chydnabod am ei rôl hollbwysig a dod yn bartner sefydledig yn y tirlun addysgol yng Nghymru.

Yn ei amser hamdden, mae John yn mwynhau darllen, cerdded, ymweld â’r theatr, chwarae tenis, a beicio.

Dr John Graystone

Aelodau'r Bwrdd

Gweld y Cyfan
Dr Deborah (Debbie) Nash

Mae Dr Debbie Nash yn academydd sy’n arbenigo mewn gwyddorau anifeiliaid. Treuliodd Debbie flynydd…

Katie Phillips

Mae Katie yn fyfyriwr MSc Cymdeithas, Amgylchedd, a Newid Byd-eang yn ddiweddar ac mae ganddi radd (…

Yusuf Ibrahim

Mae Yusuf Ibrahim yn Bennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Yn aelod o’r Black Leade…