Skip to main content
English | Cymraeg

Rebecca Turner

Ffederasiwn y Cymdeithion

Pennaeth Ysgol Acrefair yn Wrecsam yw Rebecca Turner. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys pennaeth Ysgol Bro Famau (2010-2015), hyfforddwr arweinyddiaeth ar gyfer penaethiaid uchelgeisiol a CPCP, mentor penaethiaid newydd ac arolygydd cymheiriaid Estyn.

Fel Cydymaith mae Rebecca eisiau cefnogi uwch arweinwyr ledled Cymru a gweithio gyda grŵp amrywiol, hynod wybodus, medrus ac angerddol o bobl i ddylanwadu ar ddyfodol arweinyddiaeth addysg yng Nghymru.

“Edrychaf ymlaen at y cyfle i roi yn ôl i broffesiwn rydw i wrth fy modd yn rhan ohono ac yn falch iawn ohono.”

Mae Rebecca yn caru cerddoriaeth a chelf. Mae hi’n chwarae ystod o offerynnau gan gynnwys piano, ffliwt, gitâr, iwcalili… Mae hi’n mwynhau gweithio yn yr ardd ond mae hi’n arddwr ‘damweiniol’! Cafodd Rebecca ei magu wrth ochr y môr ac mae hi hapusaf ar y traeth. Mae’n briod ac mae ganddi ddwy ferch sydd yn y brifysgol. Hefyd, mae gan Rebecca hen gath Burma sy’n mwynhau goruchwylio galwadau Zoom!

Twitter icon@YsgolAcrefair

Twitter icon@RebeccaTurnerHT

Rebecca Turner

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Gayle Shenton

Ffederasiwn y Cymdeithion

Jayne Woolcock

Ffederasiwn y Cymdeithion

Rhian Milton

Ysgrifenyddiaeth, Ffederasiwn Cysylltiedig