English | Cymraeg

Louise Williams

Cydymaith

Pennaeth Ysgol VA St Mary’s CIW yn Wrecsam yw Louise Williams. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys pennaeth yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gwernymynydd (2012-2017) a dirprwy bennaeth yn Ysgol Gynradd Gymunedol Sandycroft (2005-2012). Mae Louise yn aelod o Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd Wrecsam a dyfarnwyd hi’n Bennaeth y Flwyddyn 2016.

Mae Louise eisiau bod yn llysgennad i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a chyflwyno cydweithwyr yn Wrecsam i waith y sefydliad. Yn ei rôl fel Cydymaith hoffai Louise ddylanwadu ar benderfyniadau a pholisïau’r dyfodol ar lefel genedlaethol a gwneud cysylltiadau ag arweinwyr ac academyddion o bob rhan o Gymru ac yn rhyngwladol.

“Edrychaf ymlaen at gwrdd â phobl newydd o ystod o gefndiroedd a chymryd rhan mewn dysgu ac ymchwil a datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel.”

Mae Louise wrth ei bodd yn darllen, i ddianc i mewn i lyfr a darganfod amser neu le gwahanol. Mae hi’n mwynhau teithio, yn enwedig i hinsoddau cynhesach ac mae’n hoffi cerdded a mynd allan i fyd natur mor aml â phosib, yn enwedig ar lan y môr ac un diwrnod mae’n gobeithio byw o fewn pellter cerdded i arfordir Gymru. Mae Louise yn byw gyda’i dau blentyn, dwy gath a’i gŵr.

Facebook icon@stmarysCiWSchool

Twitter icon@LouiseHT_01

Louise Williams

Cwrdd â Charfan 4

Gweld y Cyfan
Gayle Shenton

Cydymaith

Jayne Woolcock

Cydymaith

Rhian Milton

Cydymaith