Pennaeth Ysgol Y Dderi yng Ngheredigion yw Heini Thomas. Dechreuodd Heini ei gyrfa addysgu yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, lle rhoddodd y pennaeth lawer o gyfleoedd arwain iddi. Fe’i hanogwyd i gymryd rhan yn y rhaglen CPCP a oedd yn wirfoddol bryd hynny! Arweiniodd hyn at ei swydd gyntaf fel pennaeth yn Ysgol Dihewyd. Naw mlynedd yn ddiweddarach manteisiodd Heini ar y cyfle i ddod yn bennaeth Ysgol Y Dderi.
Fel Cydymaith mae Heini yn edrych ymlaen at gael y cyfle i weithio gyda chydweithwyr newydd o bob un o bedair cornel Cymru ac ehangu ei gorwelion. Mae hi am wneud y mwyaf o’r cyfle i ymgysylltu ag agweddau arweinyddiaeth yn hytrach na chanolbwyntio ar ochr reoli yn ei rôl fel pennaeth, a all gymryd drosodd rhedeg ysgol o ddydd i ddydd. Mae Heini hefyd wedi cymryd rhan ac wedi elwa o Pen-i-Ben: Ysgolion, sesiynau lles wythnosol yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.
“Rwyf wedi bod yn bennaeth am dros ugain mlynedd ac mae addysg ac arweinyddiaeth yn esblygu’n gyson, fel dysgwr gydol oes rwy’n credu ei bod yn hynod bwysig parhau i herio fy hun a rhoi fy hun allan o fy mharth cysur. Fy nyheadau ar gyfer y dyfodol i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yw sicrhau proffil uwch i’r sefydliad ledled Cymru fel y gall pob arweinydd addysgol elwa o gyrchu’r hyn sydd ganddo i’w gynnig. Er bod gen i ddyheadau ar gyfer yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ac i mi fy hun yn bersonol, y prif ysgogiad ar gyfer fy nghyfranogiad fel Cydymaith yw gwella ymhellach y profiadau dysgu ar gyfer fy staff a disgyblion yn Ysgol Y Dderi.”
Mae Brian, gŵr Heini, yn rhedeg ei gwmni trafnidiaeth hun, mae ei mab Gruffydd yn astudio ar gyfer ei Safon Uwch ac mae ei merch Martha yn astudio ar gyfer ei TGAU.