Pennaeth Ysgol Gynradd Stryd George ym Mhont-y-pŵl yw Andrew Brasington. Mae Andrew wedi bod yn dysgu ers 1999 ac mae ei rolau blaenorol yn cynnwys pennaeth yn Ysgol Gynradd Coed Y Garn yn Blaenau Gwent a phennaeth yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llangynidr. Mae ganddo brofiad fel arolygydd cymheiriaid Estyn, partner gwella ysgolion rhanbarthol ar gyfer EAS a hyfforddwr arweinyddiaeth NPQH.
Fel Cydymaith mae Andrew yn edrych ymlaen at gyfrannu at lais arweinyddiaeth sy’n ganolog i sicrhau newid a chynnydd cadarnhaol. Mae’n edrych ymlaen at adeiladu perthnasoedd cryf, pwrpasol gyda chydweithwyr ac arbenigwyr o fewn a thu hwnt i ysgolionyn ogystal â rhannu mewn cymuned ddysgu sy’n gosod Cymru ar flaen y gad o ran datblygu arweinyddiaeth ac ennill gwybodaeth newydd a datblygu sgiliau a fydd yn ysbrydoledig ac yn anghyfforddus.
Dyheadau Andrew ar gyfer yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yw helpu’r sefydliad i ddod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a grymuso, i gynyddu ei enw da a’i ddylanwad fel llais y proffesiwn sy’n hyrwyddo polisi ac arfer effeithiol.
Mae gwraig Andrew yn athrawes ysgol uwchradd, ac mae ganddyn nhw ddwy ferch hyfryd yn eu harddegau sy’n treulio hanner eu bywydau yn nofio. Ei wledd hunanol yw treulio ei amser hamdden yn rhedeg ar y ffordd, ar hyd y gamlas leol neu’r gorau oll ymhlith dringfeydd a chribau’r Mynyddoedd Du hardd. Mewn bywyd arall, mae eisiau bod yn ganwr cefnogol mewn band enaid.