Skip to main content
English | Cymraeg

Kerina Hanson

Ffederasiwn y Cymdeithion

Pennaeth Ysgol Gynradd Pennard yn Abertawe yw Kerina Hanson. Mae ganddi brofiad fel Arolygydd Cymheiriaid Estyn, mae’n Gadeirydd Cymdeithas Penaethiaid Abertawe ac yn llywydd Cymdeithas Genedlaethol Penaethiaid Cymru.

Yn ei rôl fel Cydymaith mae Kerina wedi cyfrannu at y prosiect Ymholi, Arloesi ac Archwilio a oedd yn gysylltiedig â’r pedwar diben, lles a datblygu llythrennedd emosiynol drwy stori. Mae hi hefyd yn gwneud gwaith ymchwil i gomisiwn carfan 3. Mae Kerina wedi croesawu’r cyfle i gyfrannu at ymchwil a datblygu arweinyddiaeth yng Nghymru, yn enwedig gyda golwg ar hyrwyddo tegwch i bob ysgol. Mae’n gweld yr Academi Arweinyddiaeth yn chwarae rhan allweddol wrth godi proffil arweinyddiaeth yng Nghymru a gwneud arweinwyr a’u cyflawniadau’n fwy gweladwy.

“Rwy’n teimlo bod gan yr Academi Arweinyddiaeth rôl bwysig i’w chwarae o ran cefnogi penaethiaid ac arweinwyr yn eu rôl broffesiynol, yn enwedig drwy’r blynyddoedd nesaf a fydd yn gyfnod o newid helaeth.”

Mae Kerina yn fam sengl falch iawn o feibion aeddfed sy’n efeilliaid  ac mae ganddi ddwy gath. Mae hi wrth ei bodd yn teithio ac wedi teithio’n helaeth ar draws De Ddwyrain Asia, Ewrop, Awstralia a Japan. Mae ei diddordebau’n cynnwys darllen, braslunio a cherdded ar hyd arfordir Gŵyr.

@pennardprimary

pennardprimary.co.uk

Kerina Hanson

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Gayle Shenton

Ffederasiwn y Cymdeithion

Jayne Woolcock

Ffederasiwn y Cymdeithion

Rhian Milton

Ysgrifenyddiaeth, Ffederasiwn Cysylltiedig