Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin yw Dr Llinos Jones. Mae ganddi brofiad fel Arolygydd Cymheiriaid Estyn, mae’n Gadeirydd CYDAG (cymdeithas ysgolion addysg cyfrwng Cymraeg) ac mae’n aelod o grŵp cyfeirio penaethiaid CBAC.
Ymunodd Llinos a’r Cymdeithion am y cyfle i ddatblygu fel arweinydd ac i gysylltu â chydweithwyr ledled Cymru. Mae hi wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys cynhadledd ar-lein gyntaf yr Academi Arweinyddiaeth, gweminarau Datgloi Arweinyddiaeth a gweithdai arloesi. Mae Llinos hefyd wedi croesawu’r cyfle i ymgysylltu â siaradwyr ysbrydoledig fel yr Athro Laura McAllister CBE, FLSW a’r Athro Mick Waters.
“Rwy’n edrych ymlaen at allu parhau i weithio gyda’r tîm a chanolbwyntio nawr ar ein hadroddiad comisiwn newydd.”
Hoff hobi Llinos yw gwylio pêl-droed – unrhyw dîm, ar unrhyw lefel!