Skip to main content
English | Cymraeg

Alison Ellis

Ffederasiwn y Cymdeithion

Pennaeth Gweithredol Ysgol Gynradd Maesyrhandir ac Ysgol Gynradd Brynhafren ym Mhowys yw Alison Ellis. Mae Alison yn gynrychiolydd ar sawl grŵp arbenigol gan gynnwys Grŵp Llywio ADY, Grŵp Ffrwd Waith ADY y Blynyddoedd Cynnar a Grŵp Penaethiaid y Canolfannau Arbenigol.

Fel Cydymaith, mae Alison wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant cymeradwyo ac ymwybyddiaeth ofalgar ac ar hyn o bryd mae’n gwneud gwaith ymchwil ar gomisiwn carfan 3. Mae hi wedi mwynhau cael y cyfle i glywed gan arweinwyr addysgol amlwg ac ymgysylltu â nhw a datblygu perthnasoedd gyda chydweithwyr ledled Cymru. Mae Alison yn edrych ymlaen at feithrin ei gallu i gefnogi arweinwyr eraill yn effeithiol ac i gymryd rhan mewn mwy o brosiectau ymchwil. Hoffai i’r Academi Arweinyddiaeth ddod yn adnabyddus ledled Cymru fel sefydliad a all gefnogi datblygiad arweinwyr addysgol yn y dyfodol, beth bynnag y math neu faint yr ysgol.

I ymlacio, mae Alison yn treulio amser yn coginio, gwnïo, gwau a cherdded ei dau Schnauzers bach. Mae’n hoffi canŵio, dringo ac abseilio ac mae’n mwynhau mynd â’i phlant ysgol ar dripiau lle gallant brofi’r gweithgareddau hyn.

Maesyrhandirprimary.com

 @MaesyrhandirPS

Brynhafren.weebly.com

Alison Ellis

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Gayle Shenton

Ffederasiwn y Cymdeithion

Jayne Woolcock

Ffederasiwn y Cymdeithion

Rhian Milton

Ysgrifenyddiaeth, Ffederasiwn Cysylltiedig