Skip to main content
English | Cymraeg

Trefor Jones

Ffederasiwn y Cymdeithion

Pennaeth Ysgol y Creuddyn yn Llandudno yw Trefor Jones. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Tywyn a Rheolwr Cymorth Ymddygiad gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Trefor yn Arolygydd Cymheiriaid profiadol o Estyn, yn fentor i benaethiaid newydd ac mae’n Gynghorydd Cymorth Gwella gyda GWE, Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru. Mae e hefyd wedi gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar y prosiect Trafod Addysgeg.

Fel Cydymaith mae Trefor wedi cyfrannu at amrywiaeth o brosiectau ac ardaloedd o waith gan gynnwys hwyluso gweithgareddau a digwyddiadau, a chyhoeddi comisiwn carfan 2. Mae Trefor yn edrych ymlaen at allu rhannu canfyddiadau’r comisiwn a chreu trafodaethau i wireddu’r canfyddiadau. Dyhead Trefor ar gyfer yr Academi Arweinyddiaeth yw gweld y sefydliad yn cyflawni ei weledigaeth o Ysbrydoli Arweinwyr, Cyfoethogi Bywydau, cynnig cyfle i arweinwyr, fel llais y proffesiwn, i wella’r arlwy addysgol i bobl o bob oed yng Nghymru yn adeiladol ac yn gadarnhaol.

Mae Trefor yn briod i Elinor, athrawes ysgol gynradd yn Wrecsam, ac yn dad balch i ddau o blant, Tomos a Sioned. Mae’n gefnogwr brwd o Lerpwl, y Gweilch ac wrth gwrs Cymru! Dau o’i hoff atgofion yw cwblhau her y Tri Brig Prydeinig, ar y cyd â staff Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa (Maes y Gwendraeth erbyn hyn) a chwblhau her Tri Brig Cymru gyda’i deulu. Y Tri Brig Swydd Efrog sydd nesaf ar y rhestr!

 @pennaethyyc

@ysgolycreuddyn

moodle.creuddyn.conwy.sch.uk

 @creuddyn

@ysgolycreuddyn

YouTube: Ysgol Y Creuddyn

Trefor Jones

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Gayle Shenton

Ffederasiwn y Cymdeithion

Jayne Woolcock

Ffederasiwn y Cymdeithion

Rhian Milton

Ysgrifenyddiaeth, Ffederasiwn Cysylltiedig