Pennaeth Ysgol Babanod T. Gwynn Jones ym Mae Colwyn yw Tania Rickard. Rhwng 2007 a 2012 bu’n bennaeth Ysgol Rhewl yn Rhuthun ac mae ganddi brofiad fel Arolygydd Cymheiriaid.
Fel Cydymaith mae Tania wedi cyfrannu at amrywiaeth o brosiectau fel hwyluso profiadau dysgu ar gyfer Cymdeithion yn garfan 3 a chyd-ysgrifennu’r comisiwn gyda charfan 2. Mae Tania hefyd wedi bod yn gweithio a’r nifer o weithgareddau megis Gweithdai Arloesi, Pen-i-Ben a phaneli cymeradwyo. Yn ei rôl fel Cydymaith hoffai Tania barhau i gefnogi hwyluso cyfleoedd arwain gwych ledled Cymru, ac yn bersonol hoffai barhau i ddysgu oddi wrth arweinwyr amlwg eraill o fewn yr Academi Arweinyddiaeth a thu hwnt.
Daw Tania o deulu clos iawn ac mae ganddi 3 chwaer. Hi yw’r unig un sydd â gwallt cyrliog a chafodd ei henwi’n ‘Shirley Temple’ pan oedd yn blentyn. Mae hanner ei theulu’n byw yn Sbaen sydd wedi dod yn ail gartref iddi. Mae hobïau Tania yn cynnwys tyfu llysiau a ffrwythau, pobi a gwnïo.