Pennaeth Tîm y Cyfnod Cynradd gyda Chyngor Abertawe yw Damien Beech. Cyn hynny bu’n Brifathro yn Ysgol Gynradd Mayals ac yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Sea View, y ddau wedi’u lleoli yn Abertawe.
Mae Damien yn rhan o ail garfan Cymdeithion ac mae e wedi bod yn gweithio a’r llawer o brosiectau gyda’r Academi Arweinyddiaeth. Mae Damien wedi cyd-ysgrifennu’r comisiwn, Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu’r weledigaeth o Gymru o ddiwylliant bywiog a’r iaith Gymraeg ffyniannus a hwyluso sesiynau dysgu proffesiynol i arweinwyr ysgolion.
“Rwy’n falch fy mod wedi cael fy newis i fod yn Gydymaith a chynrychioli cydweithwyr mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, fel ymweliadau rhyngwladol, croesawu ymwelwyr rhyngwladol i Gymru ac ymgysylltu â chydweithwyr ym mhob haen o’r system addysg.”
Wrth i Damien barhau i chwarae rhan weithredol yng ngwaith yr Academi Arweinyddiaeth, hoffai gydweithio ymhellach â chydweithwyr rhyngwladol i barhau i wella’r system addysg yng Nghymru.
Mae Damien yn mwynhau gwylio rygbi ac yn hoffi gweld holl ranbarthau Cymru yn llwyddo. Mae ganddo ddau o blant, ac mae un ohonynt bellach dros 18 oed, sy’n gwneud iddo deimlo’n hen iawn! Roedd ei dad yn bennaeth ac mae un o’r brodyr yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe – mae ganddynt draddodiad teuluol o weithio yn y sector addysg.