Skip to main content
English | Cymraeg

Jeremy Griffiths

Ffederasiwn y Cymdeithion

Pennaeth Ysgol Gwynedd yn Sir Fflint yw Jeremy Griffiths. Ar hyn o bryd mae Jeremy ar secondiad fel Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg Gychwynnol Athrawon ym Mhrifysgolion Bangor a Chester.

Dechreuodd Jeremy ddysgu ym 1985 ar ôl graddio o Goleg Cyncoed, Caerdydd a gweithiodd yn y sector uwchradd am bron i chwe blynedd. Ar ôl trosglwyddo i addysg gynradd daeth yn ddirprwy bennaeth dros dro yn gyflym cyn symud ymlaen i fod yn bennaeth. Yn ystod ei yrfa, mae Jeremy wedi gweithio fel Uwch Swyddog Addysg a Chynhwysiant Arbennig gyda Chyngor Sir Ddinbych ac aeth ymlaen i fod yn bennaeth ysgol gynradd fawr gydag ysgol anghenion arbennig. Mae wedi bod yn ymwneud â llawer o brosiectau datblygu strategol gan gynnwys Ysgolion Arloesi, Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu, Safonau Arweinyddiaeth, Ymchwil Addysg ac mae wedi gweithio gyda’r OECD.

Mae Jeremy yn aelod o garfan gyntaf Cymdeithion ac mae wedi bod yn rhan o ddatblygiad yr Academi Arweinyddiaeth ers y dechrau. Mae wedi cynrychioli’r Academi Arweinyddiaeth mewn digwyddiadau rhyngwladol fel cynhadledd y Gyngres Ryngwladol ar gyfer Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion ym Moroco a Sefydliad Astudiaethau Ontario mewn Addysg yn Toronto. Cyfrannodd hefyd at Ein Galwad i Weithredu, gyda Chymdeithion yn garfan 1. Mae’r Academi Arweinyddiaeth wedi rhoi llawer o gyfleoedd i Jeremy a hoffai barhau i weithio a’r sefydliad gymaint â phosibl yn y dyfodol.

“Pan fyddwch chi’n mwynhau’r hyn rydych chi’n ei wneud yn broffesiynol, nid yw’n teimlo fel gwaith.”

I ymlacio, mae Jeremy yn nofio’n gystadleuol mewn digwyddiadau dŵr dan do ac agored ac yn mwynhau dysgu sut y gall technoleg wella ei gynhyrchwyd a’i effeithiolrwydd wrth weithio.

Jeremy Griffiths

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Gayle Shenton

Ffederasiwn y Cymdeithion

Jayne Woolcock

Ffederasiwn y Cymdeithion

Rhian Milton

Ysgrifenyddiaeth, Ffederasiwn Cysylltiedig